Isafswm y meini prawf ar gyfer dewis cyfweleion yw 60% o’r Meini Prawf Dethol. Gweler y Tabl Asesu – Meini Prawf Dethol am fanylion.
- Cymhwyster neu brofiad perthnasol o gyflwyno sesiynau gyda phobl ifanc o oedran ysgol.
- Siaradwr Cymraeg rhugl
- Arddull cyflwyno deniadol, brwdfrydig.
- Y gallu i reoli amser yn effeithiol a blaenoriaethu llwyth gwaith eich hun.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a’r gallu i adeiladu perthnasoedd cryf gydag ysgolion
- Yn deall neu yn barod i ddysgu am bynciau amgylcheddol fel newid yn yr hinsawdd, cyfiawnder hinsawdd a datgoedwigo.
- Meddiant ar sgiliau trefnu da a’r gallu i gyrraedd targedau a chyflawni canlyniadau dangosadwy.
- Profiad o olrhain, monitro a gwerthuso data gwaith allgymorth a defnyddio hyn i ysgrifennu adroddiadau i gyllidwyr.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys Microsoft Office, gmail a dogfennau Google.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiogelu, gan gynnwys materion diogelu digidol.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i sicrhau bod pob ymgeisydd yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rôl ac yn hwyluso eu datblygiad gyrfa. Bydd hyfforddiant TG mewn meddalwedd hanfodol eraill yn cael eu cynnig hefyd.
Mae Maint Cymru yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gefndir ethnig amrywiol a phobl sy’n byw gydag anabledd. Mae’r rhain yn nodweddion a hunaniaethau sydd yn cael eu tangynrychioli ym Maint Cymru ar hyn o bryd. Ar ben hynny, mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn herio gwladychiaeth fodern a strwythurau pŵer gwahaniaethol sy’n gyffredin mewn cymdeithas a gwaith undod byd-eang. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar leisiau pobl sydd ar y cyrion, ac yn ceisio dileu rhwystrau a chynyddu mynediad o fewn yr argyfwng hinsawdd. Byddai cael pobl sydd â’r hunaniaethau a’r nodweddion hyn i ymuno â’r tîm yn amhrisiadwy, a byddai Maint Cymru yn dod yn sefydliad gwell oherwydd hyn.
Gallwch ddysgu mwy am y diwylliant rydym wedi ymrwymo i’w feithrin yn Maint Cymru, drwy ddarllen ein Hegwyddorion Arweiniol yma. Mae’r rhain yn llywio’r ffyrdd rydym yn rhyngweithio, y penderfyniadau a wnawn, a’r gwaith a wnawn.