Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae ein gwaith yn dibynnu ar ymdrechion unigolion a sefydliadau i godi arian ar draws Cymru. Gallwch wneud gwahaniaeth go iawn o ran cefnogi cymunedau brodorol, amddiffyn coedwigoedd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy godi arian i Maint Cymru.
Mae Ring O’ Fire yn farathon eithafol arfordirol, sy’n mynd â rhedwyr ar daith anhygoel o 135 milltir o amgylch Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae’r ras epig hon yn cael ei chynnal dros dri diwrnod yn olynol, ac mae’n dilyn Llwybr Arfordirol garw ac ysblennydd Ynys Môn.
Ers ei sefydliad yn 2012 mae Run 4 Wales wedi tyfu i fod yn un o drefnwyr digwyddiadau cyfranogiad torfol mwyaf adnabyddus y DU. Yr hyn sy’n ei sbarduno yw dyhead i gyflenwi digwyddiadau o safon fyd-eang gydag agenda cymdeithasol cadarnhaol. Mae ganddyn nhw bortffolio o ddigwyddiadau sy’n uchelgeisiol ac yn datblygu, a phrofiad o gyflenwi rasys rhedeg, beicio, a rasys antur aml-gamp. Mae rhai o’i ddigwyddiadau yn cynnwys Hanner Marathon Caerdydd, Marathon Casnewydd a 10k Ynys Y Bari.
Mae Digwyddiadau Camu i’r Copa bob amser yn gyfystyr â bod yn hynod o brydferth, yn unigryw o heriol, yn cael ei redeg yn broffesiynol a bob amser yn gyfeillgar. Ei nod yw cynnig ‘rhywbeth gwahanol’, cefnogi economïau lleol ac arddangos lleoliadau hyfryd Cymru a dyma beth mae pob digwyddiad yn ei wneud.
Mae Endurance Life yn darparu profiadau rhedeg heb eu hail mewn rhai o’r lleoliadau mwyaf heriol a syfrdanol. Yng Nghymru, gellir dod o hyd i’w digwyddiadau yn y Gŵyr a Sir Benfro.
Cael eich ysbrydoli a dysgu sut mae eraill wedi codi arian ar gyfer Maint Cymru.
Rhoddodd Micah o Wrecsam y gorau i’w wely a chysgu ar y llawr am 40 noson yn ystod Grawys 2022. Dywedodd Micah ei fod yn cefnogi cenhadaeth Maint Cymru yn fawr, a’i fod wedi codi swm ffantastig o £100.
Cynhaliodd staff yn DWCC ym Mryste werthiant pobi i godi arian ar gyfer ein hymgyrch Coed yr Ŵyl. Mae’r tîm wedi bod yn codi arian i Maint Cymru ers sawl blwyddyn er mwyn gwneud eu gweithle yn fwy ecogyfeillgar.
Cefnogodd tîm o redwyr Maint Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 2022. Fe wnaethon nhw godi swm o £1470 ar gyfer cymunedau coedwigoedd sy’n ceisio taclo datgoedwigo ar draws y byd. Os hoffech chi gystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran Maint Cymru yn y dyfodol, cysylltwch â ni.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd