Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae newid hinsawdd yn fater sydd ag anghyfiawnderau hiliol ac economaidd-gymdeithasol wedi’u hymgorffori drwyddi draw. Mae newidiadau negyddol newid hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar gymunedau sydd yn cael yr effaith leiaf ar achosi’r mater. Hefyd, nid yw’r cymunedau hyn yn ymwneud yn aml â’r dyluniad nac yn cael eu hystyried wrth weithredu polisïau lliniaru. Mae’r mater hwn yn bresennol yng Nghymru ac er mwyn newid hyn, mae’n rhaid i ni gynnwys Cymru gyfan yn well yn y drafodaeth amgylcheddol. Bydd ein gwaith cymunedol yn galluogi Cymru i gymryd agwedd fwy cynhwysol a chyffredinol tuag at faterion fel cynaliadwyedd amgylcheddol ac anghydraddoldebau cymdeithasol ac o’r herwydd, bydd yn gwella cyfiawnder amgylcheddol yng Nghymru.
Mae hwn yn brosiect Cymru gyfan. Mae sefydliadau rydym wedi gweithio mewn partneriaeth á nhw yn cynnwys:
Other organisations we have worked with:
Cysylltwch â’n Swyddog Allgymorth Cymunedol, Rhys, drwy e-bostio [email protected] i drafod gweithio trwy gyfrwng partneriaeth gymunedol gyda ni, i archebu gweithdy neu I’n cael i ddod draw i’ch digwyddiad!