Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Rhoi yn ôl i natur a helpwch i sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd
Ymrwymo i daclo datgoedwigo trofannol yn ein cadwyni cyflenwi
Rydyn ni’n creu mudiad i sicrhau mai Cymru yw’r genedl dim datgoedwigo gyntaf yn y byd, ac yn gwahodd ysgolion i ddod ar y daith honno gyda ni.
Mae pobl ifanc ar draws y byd yn sefyll fyny dros y dyfodol maen nhw eisiau ei weld, ac mae mwy a mwy o ysgolion yn cefnogi gweledigaeth eu myfyrwyr o blaned hapusach ac iachach.
Mae ein hymgyrch Ysgolion Dim Datgoedwigo yn cefnogi ysgolion i leihau eu hôl troed coedwig drofannol, ac yn grymuso plant i fod yn ‘ddinasyddion moesegol, gwybodus’ drwy ddysgu am y bygythiadau i goedwigoedd trofannol a’r atebion i’w diogelu.
Mae llywodraethau, sefydliadau a chymunedau yn gweithredu ar draws y byd i atal datgoedwigo sydd yn cael ei achosi gan gynnyrch sy’n risg i goedwigoedd, fel cig eidion wedi’i fewnforio, soia ac olew palmwydd.
Pam bod angen i ni gymryd camau Dim Datgoedwigo?
Yng Nghymru, rydym yn bwyta ac yn defnyddio llawer o gynnyrch sy’n dod o ranbarthau trofannol, fel cig eidion o Dde America, soia (rydyn ni’n ei fwydo i’r anifeiliaid rydyn ni’n eu bwyta), olew palmwydd, coffi, siocled, pren, papur a mwydion coed.
Ffaith am goedwigoedd:
Mae dros 50% o gynnyrch bwyd
wedi’u pecynnu yn cynnwys olew palmwydd.
Yn aml iawn, mae coedwigoedd trofannol, sy’n gartref i Bobl Frodorol, planhigion ac anifeiliaid, yn cael eu torri i lawr i dyfu’r cynnyrch hyn.
Po fwyaf o’r cynnyrch hyn rydyn ni’n eu prynu, (ac yn aml yn eu taflu i ffwrdd), y mwyaf o dir sydd ei angen arnom i dyfu mwy o gnydau, sy’n golygu bod mwy a mwy o goed yn cael eu torri i lawr.
Mae hyn nid yn unig yn broblem fawr i goedwigoedd, pobl ac anifeiliaid, ond mae’n golygu bod gennym lai o goed i stopio ein planed rhag mynd yn boethach.
Darganfyddwch pa gamau sydd angen i chi eu cymryd i ddod yn Ysgol Dim Datgoedwigo.
Sut i ddod yn Ysgol Dim DatgoedwigoMae Ysgol Dim Datgoedwigo wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i gael gwared ar ddatgoedwigo trofannol o’i chadwyni cyflenwi,* ac yn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol a’r hyn y gallwn ei wneud i’w diogelu.
Mae hyn yn dechrau gyda dysgu am sut mae’r cynnyrch hyn yn cael eu tyfu ac o ble maen nhw’n dod, ac ymchwilio i’r cynnyrch sy’n risg i goedwigoedd yn eich ysgol. Gallai’r rhain fod yn gynhwysion yn eich prydau ysgol, neu’r papur yn eich ystafell ddosbarth.
Mae’n golygu siarad â’ch cyngor lleol a’ch busnesau hefyd, fel archfarchnadoedd, am eu hymdrechion i leihau datgoedwigo a darparu prydau ysgol sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur.
Mae ein holl adnoddau’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, a bydd yn helpu i arwain cymuned eich ysgol i gymryd camau ystyrlon tuag at ddod yn ysgol dim datgoedwigo.
*Mae’n anodd iawn cael gwared ar y risg o ddatgoedwigo yn ein cadwyni cyflenwi yn llwyr. Mae hyn oherwydd nad ydym yn aml yn gwybod o ble mae cynnyrch a chynhwysion sy’n risg i goedwigoedd yn dod ohono, sut y cawsant eu tyfu, neu pa fwydydd sy’n cynnwys cynhwysion sy’n risg i goedwigoedd. Efallai na fyddwn ni hefyd yn cael y cyfle i wneud y penderfyniadau hyn ein hunain. Fodd bynnag…
Gallwn warchod ein coedwigoedd mewn sawl ffordd, er enghraifft: