Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae Maint Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu, ac mae ganddo bolisi diogelu (gweler yma) ar waith i amddiffyn y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw rhag unrhyw fath o gam-drin, ecsbloetio a niwed. Mae’n rhaid i’r holl staff a gwirfoddolwyr gadw at y polisi hwn.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon diogelu, cysylltwch â Swyddog Diogelu Maint Cymru (Barbara Davies Quy – Dirprwy Gyfarwyddwr) drwy anfon e-bost at [email protected]. Gallwch gysylltu â’r Swyddog Diogelu’r Ymddiriedolwyr hefyd, sef Jon Hunt (Ymddiriedolwr) drwy anfon e-bost at [email protected]. Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, cysylltwch â’r awdurdodau lleol perthnasol. Os ydych chi yn y DU, gallwch gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 999.
Rydym yn asesu pob pryder a dderbyniwyd, a lle bo’n briodol, byddwn yn lansio ymchwiliadau i amheuaeth o gamweddau, neu’n cyflwyno adroddiadau i’r awdurdodau perthnasol.
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Does dim rhaid i chi ddarparu manylion personol, ond bydd gwybodaeth o’r fath yn ein helpu i anfon eich pryderon ymlaen, ac yn ein galluogi ni i roi ymateb i chi ar y canlyniad. Os byddwch yn gofyn i ni beidio â datgelu eich hunaniaeth, ni fyddwn yn gwneud hynny heb eich caniatâd chi, oni bai bod hynny’n ofynnol yn unol â’r gyfraith.
Gallwch ddarllen a lawrlwytho’r adnodd hwn yma.