Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Enwebwch ni i gael £1,000!
Mae’r polisi hwn yn disgrifio sut mae Maint Cymru yn casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi. Mae’n nodi’r gwahanol feysydd lle mae preifatrwydd defnyddwyr yn y cwestiwn ac yn amlinellu ein rhwymedigaethau i’n defnyddwyr a hefyd yr hyn y mae ein defnyddwyr yn cytuno iddo pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan. Mae’r ffordd rydym yn prosesu, storio a diogelu gwybodaeth defnyddwyr wedi’i nodi yn y polisi hwn. Mae’r polisi hwn ar gael ar ein gwefan.
Elusen yng Nghaerdydd yw Maint Cymru a’i nod yw cefnogi prosiectau byd-eang sy’n mynd i’r afael â datgoedwigo a diraddio coedwigoedd y byd. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau i ysgolion er mwyn addysgu plant am effeithiau datgoedwigo a newid hinsawdd.
Mae Maint Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am gefnogwyr er mwyn cyflawni ein gwaith. Mae gofyniad cyfreithiol hefyd i gadw gwybodaeth ar gyfer rhai sefyllfaoedd, er enghraifft, prosesu rhoddion Cymorth Rhodd. Rydym yn cydnabod bod trin y data hwn yn gywir ac yn gyfreithlon yn angenrheidiol er mwyn i chi fod yn hyderus yn ein sefydliad.
Mae’r polisi hwn yn egluro pa ddata rydym yn ei gadw a sut rydym yn sicrhau bod eich data’n ddiogel. Mae’r data personol sydd gennym yn destun mesurau diogelu cyfreithiol yn Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r holl staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn ogystal â gweithwyr ar gontract. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y polisi hwn, cysylltwch â ni – mae ein manylion cyswllt ar ddiwedd y ddogfen hon yn ogystal ag ar ein gwefan.
Mae tudalennau ar ein gwefan a fydd yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol, er enghraifft os ydych yn dymuno cael gwybod am ein gweithgareddau, os ydych yn dymuno gwneud cyfraniad neu gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein. Bydd faint o ddata y gofynnwn amdano yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech ei wneud. Er enghraifft, os ydych yn dymuno derbyn newyddion am ein gweithgareddau, byddwn ond yn gofyn am enw, cyfeiriad e-bost, sefydliad a chod post; fodd bynnag, os hoffech gyfrannu neu wneud debyd uniongyrchol, yna gofynnir i chi am ragor o fanylion, gan gynnwys cyfeiriad llawn a manylion cyfrif. Drwy roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych yn cydsynio i’r wybodaeth honno gael ei chasglu a’i defnyddio fel y’i diffinnir gan y polisi hwn.
Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn hwy nag sydd angen. Byddwn yn cadw’r wybodaeth honno tra byddwch yn dymuno i ni gyfathrebu â chi, neu tra byddwch yn rhoi i ni. Os dymunwch i ni roi’r gorau i gyfathrebu, efallai y bydd angen i ni gadw eich gwybodaeth gyswllt fel na fyddwn yn cysylltu â chi yn anfwriadol.
Os byddwch yn defnyddio ein gwefan i gofrestru ar gyfer cyfathrebiadau, gofynnir i chi nodi beth yr hoffech glywed amdano (er enghraifft cylchlythyrau, ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau). Byddwn ond yn anfon e-byst atoch am y dewis rydych wedi’i ddewis. Os byddwn, yn y dyfodol, yn penderfynu cynnig diweddariadau eraill, byddwn yn gofyn i chi cyn i ni anfon cyfathrebiadau ar bynciau eraill. Nid ydym yn cysylltu ag unigolion dros y ffôn ar hyn o bryd – byddem yn gofyn am eich caniatâd yn gyntaf pe baem yn penderfynu gwneud hynny yn y dyfodol.
Bydd ein gwefan a’r negeseuon e-bost y byddwn yn eu hanfon atoch yn cynnwys ffordd o newid eich dewisiadau cyfathrebu, gyda’r opsiwn o optio allan yn llwyr. Mae’n bosibl y bydd yr e-byst a anfonwn yn cael eu monitro i’n helpu i werthuso pa e-byst sy’n apelio fwyaf atoch.
Os dymunwch gysylltu â ni yn uniongyrchol ynglŷn â chyfathrebu, mae ein manylion cyswllt ar ddiwedd y ddogfen hon yn ogystal ag ar ein gwefan.
Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhentu eich data i unrhyw sefydliad arall oni bai bod gofyniad cyfreithiol i ni wneud hynny.
Mae dolenni i wefannau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft Facebook, Twitter) ar ein gwefan. Byddwch yn ymwybodol, os byddwch yn dewis dilyn y dolenni hyn, efallai y byddant yn gofyn am fynediad i’ch data ar eu gwefannau.
Rydym yn defnyddio cwmnïau trydydd parti at wahanol ddibenion, er enghraifft, i anfon e-byst ac i storio data. Dim ond er mwyn darparu eu gwasanaeth i ni y mae’r cwmnïau trydydd parti hyn wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio’r data hwnnw ac ni chaniateir iddynt ei ddefnyddio am unrhyw reswm arall. Rydym yn gyfrifol am eich gwybodaeth bersonol ac yn gwirio telerau busnes y cwmnïau gwasanaeth hyn o bryd i’w gilydd wrth iddynt berfformio gwasanaethau i ni.
Mae’r holl drafodion ar-lein ar ein gwefan yn cael eu prosesu trwy PayPal ar hyn o bryd. Mae Paypal yn defnyddio’r protocol SSL (Secure Sockets Layer) ar gyfer amgryptio. Mae’r rhan fwyaf o borwyr (Microsoft Explorer, Mozilla Firefox, Safari, ac ati) yn cefnogi SSL. Mae’r cyswllt rhwng eich porwr a’r gweinydd yn ddiogel os yw eich porwr yn dangos clo clap bach neu symbol allwedd rhywle yn y ffrâm, neu os yw’r bar cyfeiriad yn dangos cyfeiriad gwe sy’n dechrau https:// (yn hytrach na http://).
Gall rhai o’n tudalennau gwe gynnwys dolenni i wefannau eraill lle credwn y gallai’r gwefannau hynny ddarparu gwybodaeth o ddiddordeb i’n darllenwyr. Nid oes gennym unrhyw atebolrwydd am y gwefannau hynny a chynghorir defnyddwyr i wirio’r polisi preifatrwydd ar y gwefannau hynny os oes ganddynt unrhyw bryderon.
Ffeiliau bach yw cwcis sy’n cael eu cadw ar yriant caled cyfrifiadur y defnyddiwr sy’n olrhain, cadw a storio gwybodaeth am ryngweithiadau’r defnyddiwr a’r defnydd o’r wefan. Mae hyn yn galluogi’r wefan i roi profiad wedi’i deilwra i’r defnyddwyr o fewn y wefan hon.
Efallai y byddwn yn defnyddio cwcis i gofio gosodiadau personol rydych chi wedi’u dewis ar ein gwefan. Nid ydym mewn unrhyw gyd-destun arall yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth sy’n eich adnabod chi’n bersonol. Mae’r rhan fwyaf o’r cwcis rydyn ni’n eu gosod yn cael eu dileu’n awtomatig o’ch cyfrifiadur pan fyddwch chi’n gadael ein gwefan neu’n fuan wedyn.
Rydym yn defnyddio cwcis sesiwn dienw (cwcis tymor byr sy’n diflannu pan fyddwch yn cau eich porwr) i’ch helpu i lywio’r wefan a gwneud y gorau o’r nodweddion.
Mae ein gwefan yn defnyddio meddalwedd olrhain fel bod gennym well dealltwriaeth o sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Darperir y feddalwedd hon gan Google Analytics sy’n defnyddio cwcis i olrhain defnydd ymwelwyr. Bydd y feddalwedd yn cadw cwci ar yriant caled eich cyfrifiadur er mwyn olrhain a monitro eich ymgysylltiad a’ch defnydd o’r wefan, ond ni fydd yn storio, cadw na chasglu gwybodaeth bersonol.
Pe bai defnyddwyr yn dymuno gwrthod defnyddio ac arbed cwcis o’r wefan hon ar yriant caled eu cyfrifiadur, dylent gymryd y camau angenrheidiol o fewn gosodiadau diogelwch eu porwr gwe i rwystro pob cwci o’r wefan hon a’i gwerthwyr gwasanaeth allanol. Sylwch – gall blocio cwcis effeithio ar y ffordd y mae’r wefan hon a gwefannau eraill yn gweithio.
Gellir dod o hyd i gwcis mwy o wybodaeth ar wefan y Interactive AdvertisingBureau www.allaboutcookies.org .
Gall rhai o’n tudalennau gwe gynnwys dolenni i wefannau eraill lle credwn y gallai’r gwefannau hynny ddarparu gwybodaeth o ddiddordeb i’n darllenwyr. Nid oes gennym unrhyw atebolrwydd am y gwefannau hynny a chynghorir defnyddwyr i wirio’r polisi preifatrwydd ar y gwefannau hynny os oes ganddynt unrhyw bryderon.
Mae gennych hawl i ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Anfonwch gais ysgrifenedig i’r cyfeiriad post ar ddiwedd y ddogfen hon, gan roi disgrifiad o’r data yr hoffech ei weld a phrawf o bwy ydych. Byddwn yn ymdrechu i gadarnhau pwy ydych cyn rhyddhau unrhyw wybodaeth. Mae’n bosibl y byddwn yn codi ffi fechan am gydymffurfio â’ch cais a byddwn yn ymateb o fewn 40 diwrnod oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn ein hatal rhag gwneud hynny.
Rydym yn croesawu ymholiadau gan blant ond rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldebau i’w hamddiffyn. Rydym yn gweithio gyda phlant fel rhan o’n rhaglen addysg ond yn gofyn i bobl dan 18 oed beidio â rhoi eu gwybodaeth bersonol i ni ac yn lle hynny i riant neu warcheidwad weithredu ar eu rhan.
Nid yw Maint Cymru wedi’i gofrestru gyda’r ICO ar hyn o bryd gan ein bod yn sefydliad dielw ac yn gymwys i gael eithriad.
Mae Maint Cymru wedi’i gofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian. Drwy gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, gallwch ddweud a fyddai’n well gennych beidio â derbyn cyfathrebiadau gennym ni.
Rydym yn adolygu ein polisïau o bryd i’w gilydd, felly gall y polisi hwn newid yn y dyfodol. Bydd y polisi diwygiedig ar gael ar ein gwefan. Adolygwyd y polisi hwn ddiwethaf ym mis Mawrth 2018.
Maint Cymru, Y Deml Heddwch, Rhodfa Brenin Edward VII, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3AP. Ffôn: 07863 433 478. Cyfeiriad e-bost: [email protected]