Cenedl Dim Datgoedwigo: Papur i wneuthurwyr polisi
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Rhoi yn ôl i natur a helpwch i sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd
Rydym yn galw ar Gymru i greu hanes a dod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
Mae tua 11 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol yn cael eu dinistrio bob blwyddyn-ardal bron chwe gwaith maint Cymru. Clirio tir i gynhyrchu nwyddau fel cig eidion, soi, olew palmwydd, coffi, pren a choco yw’r prif beth sy’n sbarduno datgoedwigo.
Mae’r economi datgoedwigo o’n cwmpas ym mhob man. Mae yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, y cynhyrchion rydyn ni’n eu prynu, ac yn ein potiau pensiwn. Gall Cymru arwain y ffordd ar y mater hwn, tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
I ddysgu mwy am yr ymgyrch Cenedl Dim Datgoedwigo, ewch i adran adnoddau’r dudalen hon.
Cenedl Dim Datgoedwigo: Papur i wneuthurwyr polisi
Mae’r Pecyn Cymorth Busnesau Dim Datgoedwigo (BDD) hwn wedi’i lunio gan Maint Cymru i helpu busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion, y nwyddau a’r gwasanaethau y byddant yn eu prynu, yn eu cynhyrchu neu’n buddsoddi ynddynt, yn achosi datgoedwigo mewn mannau trofannol, dinistrio cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol negyddol dramor.
Defnyddir ardal sy’n cyfateb i 40% o faint Cymru dramor i dyfu nwyddau a fewnforir i Gymru.
Mewn llawer o’r gwledydd hyn mae hawliau pobl frodorol yn cael eu cam-drin, mae pobl gan gynnwys plant yn cael eu gorfodi i lafur, ac mae cynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr yn cael eu dinistrio i greu nwyddau sy’n rhwym i Gymru.
Darllenwch yr holl adroddiad i ddysgu fwy.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd