Ein cenhadaeth yw cynnal ardal o goedwig drofannol o leiaf maint Cymru (dwy filiwn hectar) fel rhan o'n hymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Enwebwch ni i gael £1,000!
Ein cenhadaeth yw cynnal ardal o goedwig drofannol o leiaf maint Cymru (dwy filiwn hectar) fel rhan o'n hymateb cenedlaethol i newid hinsawdd.
Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod nwyon tŷ gwydr yn gwresogi ein planed ac yn ansefydlogi’r hinsawdd. I geisio lleihau’r difrod hwn, mae’n rhaid i ni dorri allyriadau yn sylweddol a chyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C. Fodd bynnag, mae amser yn brin.
Mae coedwigoedd trofannol ein planed yn eistedd tua 28 gradd i’r gogledd neu i’r de o’r cyhydedd. Maen nhw’n hanfodol i fywyd ar y Ddaear. Maen nhw’n amsugno symiau enfawr o garbon, yn cynhyrchu ocsigen, yn cynnal y cylch dŵr, ac yn chwarae rhan sylweddol mewn cynnal yr hinsawdd fyd-eang.
Mae coedwigoedd trofannol yn fannau problemus ar gyfer bioamrywiaeth, ac yn gartref i tua 80% o’r rhywogaethau sydd wedi’u cofnodi. Gall un hectar gynnwys 200 o rywogaethau o goed, a mwy na 40,000 o rywogaethau o bryfed.
Mae miliynau o bobl yn byw mewn coedwigoedd trofannol hefyd, gan gynnwys llawer o Bobl Frodorol y byd.
Mae coedwigoedd trofannol y byd dan fygythiad. Mae’r galw am nwyddau fel cig eidion, soi, olew palmwydd, coco a choffi yn sbarduno datgoedwigo mewn coedwigoedd fel yr Amazon. Yn y broses, mae un o’n hamddiffynfeydd gorau yn erbyn yr argyfwng hinsawdd yn cael ei ddinistrio.
Rhwng 2000 a 2018, dinistriwyd 157 miliwn hectar o goedwig drofannol, ardal o faint India. Amcangyfrifir bod datgoedwigo byd-eang yn cyfrif am 20% o allyriadau byd-eang. Hefyd, mae perygl i goedwigoedd trofannol ryddhau mwy o garbon nag y maen nhw’n ei storio.
Er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd ryngwladol a chyfyngu tymheredd byd-eang i 1.5°C, mae’n rhaid i’n harweinwyr gwleidyddol roi diwedd ar ddatgoedwigo byd-eang. Dyna pam rydyn ni’n galw ar Gymru i greu hanes, a dod yn Genedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
o goed yn cael eu dinistrio bob munud
biliwn tunnell fetrig o garbon yn cael ei storio mewn coedwigoedd bob blwyddyn
o’r blaned yn cael ei gorchuddio gan goedwig drofannol
o rywogaethau gwahanol o goed mewn un hectar o goedwig drofannol
miliwn o bobl yn byw yng nghoedwigoedd y blaned
o’r holl feddyginiaethau yn deillio o blanhigion a geir mewn coedwigoedd trofannol