Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Enwebwch ni i gael £1,000!
Yn gartref i 80% o fywyd y byd ar dir, mae coedwigoedd yn hollbwysig ar gyfer cynnal bioamrywiaeth. Ond mae rhai o ecosystemau mwyaf tyngedfennol y byd yn cael eu colli ar raddfa frawychus. Gwneir hyn yn bennaf trwy gynhyrchu, caffael ac ariannu dyrnaid o nwyddau, gan gynnwys cig eidion, soi, ac olew palmwydd. Er bod yna rai arwyddion cadarnhaol o gynnydd, collwyd ardal o goedwig oedd yn fwy nag un ar ddeg gwaith maint Cymru yn 2022.
Mae cronfeydd pensiwn yn agored i ddatgoedwigo, trawsnewid tir a cham-drin hawliau dynol cysylltiedig, a hyn yn wynebu Pobloedd Brodorol yn arbennig, trwy’r sectorau a’r diwydiannau y maent yn buddsoddi ynddynt. O ganlyniad, mae ganddynt allu unigryw i helpu i ysgogi newid, o fewn eu buddsoddiadau hwy eu hunain, ac yn fwy felly, ar draws y sector cyllid.
Mae pensiynau i fod i ddarparu ar gyfer y dyfodol ond, fel y mae ein ymchwil ni yn ei ddatgelu, mae eu lefel sylweddol o gysylltiad â datgoedwigo yn peryglu’r dyfodol. Nid oes rhaid iddi fod fel hyn, mae datgoedwigo yn argyfwng y gellir ei ddatrys. Mae yna gyfoeth o wybodaeth, canllawiau a data ar gael i alluogi cronfeydd pensiwn i gymryd camau ymarferol heddiw a sicrhau eu bod yn gyfrifol yn fyd-eang.
Mae gan gronfeydd pensiwn, fel pob sefydliad ariannol, rôl unigryw a chritigol i’w chwarae i ddileu datgoedwigo, trawsnewid, a chamdriniaeth o hawliau dynol cysylltiedig o gadwyni cyflenwi byd-eang. Mae gan gronfeydd pensiwn fel y rhai yn y Bartneriaeth Pensiwn Cymru gyfle anhygoel i ddefnyddio’u partneriaeth bresennol i rannu gwybodaeth, i gydweithio, a dileu datgoedwigo, trawsnewid, a risgiau camdriniaeth o hawliau dynol cysylltiedig o’u buddsoddiadau, a gallant wneud hyn drwy:
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd