Mae Maint Cymru yn cynnig gweithdai am ddim i ysgolion ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd a choedwigoedd trofannol.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Rhoi yn ôl i natur a helpwch i sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd
Mae Maint Cymru yn cynnig gweithdai am ddim i ysgolion ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd a choedwigoedd trofannol.
Mae ein gweithdai yn cael eu dyfeisio yn unol â’r cwricwlwm cenedlaethol newydd i Gymru. Byddwn yn cefnogi eich addysgu, ac yn helpu eich disgyblion i ddod yn “ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd”.
Mae pob gweithdy yn addas i’w hoedran, ac yn archwilio bioamrywiaeth anhygoel coedwigoedd trofannol a bywydau’r bobl sydd yn byw ynddynt. Maen nhw’n trafod newid hinsawdd a’r rôl hanfodol mae coedwigoedd yn ei chwarae wrth frwydro yn erbyn hyn. Maen nhw’n canolbwyntio ar atebion, ac yn tynnu sylw at sut mae gan ddisgyblion y pŵer i ddiogelu coedwigoedd trofannol.
Mae pob sesiwn yn cael ei chyflwyno gan un o’n swyddogion allgymorth angerddol a phrofiadol. Mae ein gweithdai ac adnoddau addysgol rhad ac am ddim ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac wedi’i ariannu gan Llywodraeth Cymru.
I gychwyn eich taith gyda ni ac archebu gweithdy, cliciwch yma: https://sizeofwales.org.uk/cy/archebion/
I weld rhywfaint o’n gwaith blaenorol, gwyliwch y ffilm hon a gynhyrchwyd gennym gydag Ysgol Gynradd Radyr, lle gwnaethant droi eu dysgu’n adnodd deniadol i ysbrydoli eraill.