Taclo datgoedwigo trofannol ac effeithiau cymdeithasol yn ein cadwyni cyflenwi
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Taclo datgoedwigo trofannol ac effeithiau cymdeithasol yn ein cadwyni cyflenwi
Ar draws y byd, mae llywodraethau, sefydliadau a chymunedau yn gweithredu i atal datgoedwigo sydd yn cael ei achosi gan gynnyrch sy’n risg i goedwigoedd, fel cig eidion wedi’i fewnforio, soia ac olew palmwydd.
Yng Nghymru, mae llawer o’n mewnforion ein hunain yn gysylltiedig â datgoedwigo, colli cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol, fel llafur plant a cham-drin hawliau Pobl Frodorol.
A fyddwch chi’n ymuno â’r mudiad? Cofrestrwch yma i fod yn bencampwr busnes dim datgoedwigo.
Mae Busnes Dim Datgoedwigo wedi gwneud popeth o fewn ei allu i gael gwared ar ddatgoedwigo trofannol o’i gadwyni cyflenwi. Mae hyn yn golygu edrych ar y nwyddau sy’n risg i goedwigoedd mae’n eu prynu, boed fel cynhwysion amrwd neu fwydydd wedi’u prosesu, neu fel cynnyrch fel dodrefn, papur a chardbord, neu wasanaethau, fel arlwyo. Mae’n golygu gweithio gyda chyflenwyr a mabwysiadu arferion cyrchu moesegol cymaint â phosibl. Mae’n golygu cymryd camau i leihau’r defnydd a gwastraff, e.e.. ymarfer yr hierarchaeth Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu.
Bydd Busnes Dim Datgoedwigo yn gweithio fel hyrwyddwr ar gyfer coedwigoedd trofannol ac yn ysbrydoli eraill ar y ffordd.
Dewch yn hyrwyddwr busnes dim datgoedwigoDysgwch am y Gwarani, Pobl Frodorol o Frasil, a’r materion allweddol sy’n ysgogi datgoedwigo er eu tiriogaeth, a pham bod yn rhaid i ni weithredu.
Mae’r Pecyn Cymorth Busnesau Dim Datgoedwigo (BDD) hwn wedi’i lunio gan Maint Cymru i helpu busnesau i sicrhau nad yw’r cynhyrchion, y nwyddau a’r gwasanaethau y byddant yn eu prynu, yn eu cynhyrchu neu’n buddsoddi ynddynt, yn achosi datgoedwigo mewn mannau trofannol, dinistrio cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol negyddol dramor.
Mae 73 y cant o’r holl ddatgoedwigo trofannol yn cael ei achosi drwy gynhyrchu llond llaw yn unig o gynnyrch amaethyddol – cynnyrch rydym yn eu prynu, eu bwyta a’u defnyddio yng Nghymru bob dydd, sy’n cynnwys cig eidion o Dde America, soia (rydyn ni’n ei fwydo i’r da byw yma yng Nghymru), olew palmwydd, coffi, siocled, pren, papur a mwydion coed.
Mae Cymru’n mewnforio meintiau sylweddol o’r nwyddau hyn sy’n risg i goedwigoedd, sy’n gysylltiedig â datgoedwigo, colli cynefinoedd ac effeithiau cymdeithasol, fel llafur plant a gorfodol a cham-drin hawliau Pobl Frodorol.
Gall ymrwymiadau cynaliadwyedd fod o fudd i fusnesau mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft, cynyddu hyder y cyhoedd, ymgysylltu a chadw gweithwyr, lleihau risgiau a chynyddu gwydnwch yn yr hinsawdd. Mae 87% o bobl eisiau gweithredu ar ddatgoedwigo a dim eisiau i’r cynnyrch maen nhw’n eu prynu achosi datgoedwigo.
Mae ymchwil yn awgrymu y bydd 60% o brynwyr yn mynd ati i brynu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy erbyn 2030. Ynghyd â chyflwyno deddfwriaeth diwydrwydd dyladwy yr UE, yr Unol Daleithiau a’r DU ar nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, mae’n amlwg y bydd gwneud newidiadau nawr yn helpu busnesau i addasu yn ystod y cyfnod o bontio i economi carbon is.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am ragor mwy o wybodaeth am Ddim Datgoedwigo a beth mae’n ei olygu.
Mae Maint Cymru wedi cynhyrchu Pecyn Cymorth Busnes Dim Datgoedwigo, Cardiau Gwybodaeth ar Nwyddau Sy’n Risg i Goedwigoedd, a thempledi archwilio ymarferol i’ch cefnogi ar eich taith.
I fusnesau sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch beilot yn Sir Fynwy, gallwn gynnig sesiynau Dim Datgoedwigo 1-2-1, a fydd yn cefnogi’ch amcan dysgu ac yn eich tywys drwy’r templedi archwilio risg i goedwigoedd, i helpu i nodi rhywfaint o gamau gweithredu pendant. Gallwn eich cysylltu â busnesau eraill sy’n mynd trwy’r un broses hefyd, i rannu dysgu a chynnig cymorth gan gymheiriaid.
Mae coedwigoedd trofannol yn gynefinoedd pwysig, sydd nid yn unig yn gartref i lawer o blanhigion, anifeiliaid a phobl, yn enwedig Pobl frodorol, ond sy’n chwarae rhan allweddol mewn gwasanaethau ecosystemau, fel rheoleiddio’r hinsawdd, puro dŵr ac atal clefydau, yn ogystal â darparu lloches, bwyd a meddyginiaeth.
Mae coed yn storio carbon yn eu gwreiddiau, rhisgl a dail, ac yn ei drapio’n ddwfn yn y pridd. Po leiaf o goed sydd gennym, y lleiaf mae ein planed yn gallu amsugno’r allyriadau carbon rydyn ni’n eu cynhyrchu drwy weithgareddau dynol, fel llosgi tanwydd ffosil. Hebddyn nhw, byddai gwresogi byd-eang yn cynyddu, a byddai newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod heb ei wirio.
Mae pawb mewn sefyllfa wahanol gyda’r hyn maen nhw’n gallu fforddio ei wneud yn realistig. Fodd bynnag, nid yw ffynhonnell foesegol bob amser yn golygu costau uwch i’r defnyddiwr. Er enghraifft, mae’r galw cynyddol am nwyddau a gynhyrchir yn foesegol, fel coffi a siocled, yn golygu bod llawer o gynnyrch Masnach Deg mor rhad erbyn hyn – os nad yn rhatach – na dewisiadau eraill sydd ddim yn rhai Masnach Deg.
Gallwn leihau costau hefyd drwy brynu llai o gynnyrch anifeiliaid, ond o ansawdd gwell, a thrwy ychwanegu grawn cyflawn a phlanhigion protein uchel, fel ffa, cywion, ffacbys a phys at brydau bwyd.
Mae ymchwil gan Brifysgol Rhydychen yn dangos y gall deietau figan, llysieuol a fflecsitariaidd mewn gwledydd incwm uchel, ostwng biliau bwyd yn sylweddol:
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cofio mai dim ond tuedd ddiweddar iawn yw bwyta cymaint o gig. Mae bwyta cig wedi dyblu bron yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, ar raddfa gyflymach na chyfradd twf y boblogaeth.[1] Mae hwn yn amlwg yn anghynaladwy. Fodd bynnag, mae newid arferion yn gofyn am ailfeddwl ein perthynas â bwyd, ac efallai dysgu sgiliau newydd i leihau gwastraff a gorwario, e.e., dim ond defnyddio cig fel dysgl ochr neu ar gyfer blas, neu ddefnyddio cyw iâr cyfan ar gyfer sawl pryd, yn hytrach na phrynu’r darnau drutaf e.e., bronnau cyw iâr, ar gyfer un pryd bwyd.
I fusnesau, mae yna sawl dull economi gylchol a allai helpu i leihau costau hefyd. Er enghraifft, mae partneriaeth bwyty a ffermio yng Nghaerdydd, Ansh, yn defnyddio hopys gwastraff o fragdy lleol fel ffordd o ychwanegu at eu bwyd anifeiliaid. Mae hyn nid yn unig yn lleihau’r costau sy’n gysylltiedig â phrynu neu gynhyrchu bwyd anifeiliaid, ond mae’n troi cynnyrch gwastraff yn ffynhonnell werthfawr o faeth.
[1] https://www.science.org/doi/full/10.1126/science.aam5324
Y ffaith y gellir defnyddio olew palmwydd ar gyfer nifer o bethau yw un o’r rhesymau y tu ôl i’w boblogrwydd. Mae ganddo fywyd silff hir a blas ac aroma niwtral, sy’n ei wneud yn gynhwysyn delfrydol wrth baratoi llawer o fwydydd. Gellir ei dorri i lawr i wahanol ddeilliadau, sydd â llawer o ddefnyddiau y tu allan i’r diwydiant bwyd, e.e. mae’n creu swigod mewn sebon ac yn gwneud minlliw yn hufennog.
Gellir dod o hyd iddo mewn dros 50% o gynnyrch bwyd wedi’u pecynnu yn ein harchfarchnadoedd, ac mewn tua 70% o golur a glanedyddion cartrefi. Mae ganddo dros 400 enw, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i’w adnabod.
Mae 50% o fewnforion olew palmwydd Cymru yn cael eu defnyddio i fwydo da byw.
Mae’n gnwd hynod gynhyrchiol hefyd, sy’n defnyddio llawer llai o dir i gynhyrchu’r un faint o olew o’i gymharu â chnydau olew eraill.
Er enghraifft, pe byddem yn newid i olew amgen, fel ffa soia, blodyn haul neu sesame, byddai angen llawer mwy o dir i gynhyrchu’r un faint o olew, a fyddai’n arwain at fwy o ddatgoedwigo. Byddai’n golygu llai o bwysau i gwmnïau newid i gynhyrchu cynaliadwy hefyd, gan ganiatáu i arferion anghynaladwy barhau heb eu gwirio.
Gallai boicotio yrru pris olew palmwydd i lawr hefyd, a’i wneud yn fwy deniadol i farchnadoedd sydd â llai o ffocws ar gynaliadwyedd.
Yn fwy fyth, mae miliynau o bobl, yn enwedig yn Indonesia, yn dibynnu ar olew palmwydd fel eu prif ffynhonnell incwm.
Dyna pam ei bod yn bwysig dros ben dod o hyd i olew palmwydd sydd wedi’i ardystio’n ffisegol gan y Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy. Gellir olrhain cadwyni cyflenwi sydd wedi’u hardystio’n ffisegol gan y Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy – Adnabod, Cadw a Gwahanu – yn ôl i’r felin neu’r melinau unigryw. Gall y rhain leihau’r risg i ddatgoedwigo a dangos ymrwymiadau cryfach i gynaliadwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae’r ddau fath arall o ardystiad y Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy – Balans Màs (MB) ac Archebu a Hawlio (BC) – ddim ond yn cefnogi cynhyrchu cynaliadwy, ac nid ydynt yn gyson â dull dim datgoedwigo o weithredu. Mae MB yn cymysgu olew palmwydd wedi’i ardystio gydag olew palmwydd heb ei ardystio, ac mae BC yn caniatáu i gwmnïau brynu credydau gan gynhyrchwyr palmwydd cynaliadwy, tra’n parhau i ddefnyddio olew palmwydd heb ei ardystio.
Er mwyn cael eu hardystio, mae’n rhaid i ffermwyr a chynhyrchwyr fodloni safonau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd penodol. Er bod y Ford Gron ar Olew Palmwydd Cynaliadwy yn cael ei harwain gan ddiwydiant ac yn bell o fod yn berffaith, mae’r safonau hyn yn parhau i wella wrth i’r galw am gynhyrchu cynaliadwy gynyddu, ac ers 2019, maen nhw wedi cynnwys safonau ar gyfer dim datgoedwigo pellach, datblygu mawn na llosgi tir.
Mae cadwyni cyflenwi byd-eang yn gymhleth ac yn aml yn aneglur, sydd yn gallu gwneud hi’n anodd iawn i brynwyr wneud dewisiadau gwybodus am y cynnyrch maen nhw’n eu prynu. Gyda llawer o gwmnïau yn gwneud honiadau moesegol am eu cynnyrch a hyd yn oed creu eu labeli eco eu hunain, mae hyn yn dod yn fwy cymhleth fyth.
Dyma lle gall cynlluniau ardystio moesegol, fel Masnach Deg a safon Organig Cymdeithas y Pridd helpu. O dan y cynlluniau hyn, mae’n rhaid i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd fodloni meini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol penodol er mwyn cael eu hardystio a defnyddio eu logo. Mae ardystiadau moesegol yn darparu dilysu niwtral, trydydd parti, ac yn cynnig sicrwydd i brynwyr bod bwyd a nwyddau wedi’u cynhyrchu gyda moeseg mewn golwg.
Mae rhai cynlluniau ardystio’n fwy cadarn nag eraill, e.e. y rhai sy’n bartneriaeth rhwng ymgyrchwyr a chwmnïau, ac mae rhai yn cael eu harwain gan ddiwydiant, ac yn dibynnu mwy ar bwysau gan gyrff anllywodraethol sy’n eiriol dros safonau gwell. Fodd bynnag, maen nhw’n gam i’r cyfeiriad cywir. Hebddyn nhw, ni fyddai gan brynwyr unrhyw ffordd o wybod sut y cafodd bwyd a nwyddau eu cynhyrchu, ac a gafodd hawliau dynol ac amgylcheddol eu cynnal wrth eu cynhyrchu.
Er nad oes unrhyw gynllun ardystio moesegol yn gallu gwarantu dim datgoedwigo yn llwyr ar hyn o bryd, maen nhw’n cefnogi mwy o dryloywder a’r gallu i’w holrhain, ac yn dangos ymrwymiadau i safonau cymdeithasol ac amgylcheddol. Gall ardystiadau moesegol gael effaith wirioneddol ar gyfer cymunedau a’r amgylchedd, gan gynnwys tâl teg, telerau ac amodau, dim llafur plant, ffermio sy’n gyfeillgar i natur, fel, amaeth-goedwigaeth a defnyddio dim plaladdwyr, safonau lles anifeiliaid uwch ac ymrwymiadau dim datgoedwigo.
Unwaith eto, er y gallwn ddefnyddio ardystiadau moesegol i leihau’r risg o ddatgoedwigo, yn bennaf oll, mae’n rhaid i ni leihau faint rydyn ni’n ei ddefnyddio’n gyffredinol.