Mae rhaglen addysg Maint Cymru yn dysgu pobl ifanc am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol ac yn ysbrydoli camau i'w diogelu.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Rhoi yn ôl i natur a helpwch i sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd
Mae rhaglen addysg Maint Cymru yn dysgu pobl ifanc am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol ac yn ysbrydoli camau i'w diogelu.
Mae allgymorth addysg yn greiddiol i’n cenhadaeth. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc o bob oedran ar draws y wlad, o’r meithrin i addysg ôl-16.
Mae ein rhaglen yn pwysleisio pwysigrwydd coedwigoedd trofannol a rôl Pobl Frodorol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Ein nod yw rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc am sut y gallant gymryd camau cadarnhaol er lles y blaned.
Rydym yn credu y gall pawb wneud gwahaniaeth – dim ots pa mor fawr neu fach!
Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i ysgolion cynradd ar draws Cymru, sy’n codi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd a choedwigoedd trofannol.
Mae gennym fanc o adnoddau addysgol am ddim hefyd sy’n cefnogi gwersi ar newid hinsawdd a choedwigoedd trofannol.
Rydym yn cynnig sawl menter ar gyfer addysg uwchradd ac ôl-16:
I gael rhagor o wybodaeth am raglen addysg Maint Cymru, cysylltwch â ni.