Ymddiriedolwr
Mae Maint Cymru yn chwilio am bedwar Ymddiriedolwr newydd i ymuno â Bwrdd o wyth, i helpu i lywio ac arwain ein helusen ar adeg pan mai newid hinsawdd yw'r mater mwyaf tyngedfennol sy'n wynebu ein planed.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain a chreu newid i bobl o bob llwybr mewn bywyd a chefndir sydd eisiau gwneud rhywbeth arwyddocaol ynghylch yr argyfwng hinsawdd. Byddwch yn dod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac yn cydweithio gyda'ch gilydd, gan ddod â'ch profiad bywyd, eich meddyliau a'ch doethineb i'r rôl. Mae'r Bwrdd yn gasgliad croesawgar o bobl, sydd yn barod ac yn awyddus i gefnogi ei gilydd a'r tîm.
Rydym yn dathlu amrywiaeth meddwl a phrofiad bywyd, ac yn cydnabod y cryfder a’r dynameg y mae hyn yn ei gynnig. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, ieuenctid, LHDTC+ a phobl sydd yn
byw gydag anableddau. Mae Maint Cymru wedi ymrwymo ac ar daith weithredol i ddod yn elusen hollol gynhwysol a gwrth-hiliol.
Learn More