Mae’r digwyddiad drosodd, ond gallwch wylio’r fideo llawn yma:
Gwyliwch araith gan Ilson Karai Okaju (o’r Commissao Guarani Yvyrupa) yma:
–
Mae’r Diwrnod Gwyrdd yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu ar yr hinsawdd a drefnir gan Maint Cymru. Bob blwyddyn rydyn ni’n annog pobl, ysgolion, gwneuthurwyr polisi a busnesau i ddod at ei gilydd a gweithredu’n gadarnhaol er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Eleni rydyn ni’n galw ar bobl Cymru i weithredu yn erbyn datgoedwigo trofannol.
Ymunwch â ni mewn trafodaeth banel ar-lein ar ddydd Llun 21ain Mehefin o 12-1pm lle byddwn yn clywed yn uniongyrchol oddi wrth y Commissao Guarani Yvyrupa (CGY) – sefydliad Pobl Frodorol Guarani yn Brazil. Byddan nhw’n siarad am achosion ac effeithiau datgoedwigo ar eu tir, yr hyn y maen nhw’n ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng a sut y gall pobl yng Nghymru eu cynorthwyo.
Byddwn hefyd yn clywed lleisiau o Gymru benbaladr, yn rhannu camau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru, cyrff y sector cyhoeddus, ysgolion, busnesau a’r cyhoedd eu cymryd i leihau eu hôl-troed carbon a phrynu nwyddau mwy moesegol a chynaliadwy.
Bob blwyddyn, mae’r blaned yn colli ardal o goedwig sydd 9 gwaith yn fyw na maint Cymru. Achosir hyn gan y galw am nwyddau beunyddiol yr ydyn ni yn eu defnyddio yma yng Nghymru. Mae amddiffyn coedwigoedd trofannol yn allweddol ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a bod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn rhan o’r datrysiad a dod yn Cenedl Dim Datgoedwigo.
Panelwyr:
Barbara Davies Quy, – Dirprwy Gyfarwyddwr, Maint Cymru (Cadeirydd)
Ilson Karai Okaju – Commissao Guarani Yvyrupa (CGY)
Delyth Jewell MS/AS – Gweinidog yr Wrthblaid ar y Newid yn yr Hinsawdd, Plaid Cymru
Maham Aziz – Llysgennad Hinsawdd Ieuenctid Cymru
John Davies – Llywydd, NFU
Cat Barton – Rheolydd Gwarchod Gwaith Maes, Sŵ Caer
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn