Mae’r Diwrnod Gwyrdd yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu ar yr hinsawdd sydd yn cael ei drefnu gan Maint Cymru. Bob blwyddyn, rydym yn annog pobl, ysgolion, llunwyr polisïau a busnesau i ymuno â’i gilydd a chymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae Diwrnod Gwyrdd eleni yn cael ei gynnal ar 25 Mehefin 2021, gyda digwyddiadau’n digwydd drwy gydol yr wythnos honno. Rydym yn galw ar bobl yng Nghymru i weithredu yn erbyn datgoedwigo trofannol.
Bob blwyddyn, mae’r blaned yn colli ardal o goedwig sy’n cyfateb i 9 gwaith maint Cymru. Mae hyn yn cael ei achosi gan y galw am gynhyrchion bob dydd, fel olew palmwydd anghynaladwy, soi sydd yn cael ei ddefnyddio mewn porthiant anifeiliaid, cig eidion, coffi, coco, pren a phapur. Rydym eisiau i Gymru fod yn rhan o’r ateb a dod yn Genedl Dim Datgoedwigo.
Dyma rywfaint o’r ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn Diwrnod Gwyrdd 2021:
Bydd yr arian sydd yn cael ei godi yn ystod yr wythnos yn mynd i gefnogi prosiectau a chymunedau diogelu coedwigoedd yn Ne America, Affrica a De-ddwyrain Asia. Bydd yr holl arian a godir yn cael ei gyfateb, felly mae pob rhodd yn cael dwbl yr effaith!
Logo Diwrnod Gwyrdd gan: Samm Sage, Megan Herron, and Hayley Mumford
P’un a ydych yn mynychu digwyddiad neu’n rhedeg eich digwyddiad codi arian eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n lledaenu’r gair ar y cyfryngau cymdeithasol, yn defnyddio’r hashnod #GoGreenDay21.
Ymunwch â’n trafodaeth banel ar-lein “Mynd yn Wyrdd yng Nghymru ac ar draws y byd”. 12-1pm. Mae siaradwyr o Frasil a Chymru yn rhannu eu mewnwelediad ar sut y gallwn fynd i’r afael â’r argyfwng datgoedwigo. Cofrestrwch yma.
Gwyliwch ein fideo Diwrnod Gwyrdd (dod yn fuan!).
Rhowch gynnig ar bobi cacen dim datgoedwigo flasus. Gallech hyd yn oed werthu cacennau a chodi arian ar gyfer Maint Cymru.
Ysgolion beth am gael eich ysbrydoli, a defnyddio ein hadnoddau i greu eich cerdd eich hun ar y thema coedwig neu dod yn Ditectif Datgoedwigo.
Penderfynwch pa gamau y gallwch eu cymryd gartref, yn yr ysgol neu yn y gwaith i fod yn fwy cyfeillgar i goedwigoedd, gan ddefnyddio ein canllaw dim datgoedwigo.
Defnyddiwch ein canllaw i gysylltu â’ch AS lleol, a gofynnwch iddynt gymryd camau i ddiogelu coedwigoedd.
Gwisgwch wyrdd, a rhowch arian i Maint Cymru. Byddwn yn rhoi punt at bob punt a roddir, i gael dwbl yr effaith.
Ar gyfer y Diwrnod Gwyrdd, gweithredwch trwy ysgrifennu at eich Aelodau Seneddol a gofynnwch iddynt weithredu yn erbyn datgoedwigo trofannol.
Mae gan bawb yng Nghymru bum Aelod o’r Senedd sy’n eu cynrychioli: Un ar gyfer eu hetholaeth leol, a phedwar sy’n cynrychioli’r rhanbarth ehangach. Darganfyddwch pwy yw’ch aelodau trwy nodi’ch cod post ar y wefan hon.
Mae canllaw hwn yn trafod sut gallwch chi weithredu erbyn datgoedwigo.
Mae blog hwn yn trafod rhai o’r gweithgareddau hynny y bydd eich digwyddiadau codi arian yn eu cefnogi ar y Diwrnod Gwyrdd eleni.
Beth am wneud y Gacen Gyfeillgar i’r Goedwig flasus hon i’wrhannu gyda’ch teulu, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod y Diwrnod Gwyrdd?
Syniadau am bryd o fwyd yn ystod y Diwrnod Gwyrdd!
Ysgolion:
Gweithgareddau creadigol i ddysgu am Coedwigoedd Trofannol.
Gweithgareddau creadigol i ddysgu am Goedwigoedd Trofannol.
Gweithgaeddau ditectifau i archwilio olew palm. Oed: Blwyddyn 2 i 6.
Yr ail rhan ble mae’r Ditectifau yn archwilio soi, cig eidion a cocoa. Oed: Blwyddyn 4 i 6.
Ymunwch â ni i gerdded “Maint Cymru” yn ystod yr Wythnos Gwyrdd eleni, i godi arian ar gyfer prosiectau diogelu coedwigoedd.
Gallech gerdded o amgylch cae neu fuarth eich ysgol, i’r goedwig, mynydd neu i unrhyw le yn eich ardal leol. Beth am fod yn greadigol a beicio, sgipio, sgwennu, dawnsio neu hyd yn oed wneud eich milltiroedd yn dawnsio’r conga!
Mae’r pellter o’r Gogledd i’r De yn 152 milltir neu’n 245km, a gallwch ddewis p’un a ydych eisiau rhannu’r pellter cyfan rhwng eich dosbarthiadau, neu ymuno â ni am ran o’r daith.
Efallai yr hoffech wisgo i fyny mewn gwyrdd ar gyfer y digwyddiad, a pheidiwch ag anghofio anfon neges atom ar trydar @sizeofwales gyda’ch lluniau a’ch pellter yn defnyddio’r hashnod #GoGreenDay21.
Gallwch roi arian yn defnyddio ein tudalen justgiving yma. Pob lwc, ac rydym yn edrych ymlaen at weld eich lluniau.