Fel elusen Gymreig dros hinsawdd a natur ac sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau, rydym yn estyn croeso twymgalon i’r llywodraeth newydd. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda chi wrth i Gymru gychwyn ar bennod newydd sy’n llawn cyfleoedd, uchelgais, a chyfrifoldeb ar y cyd.
Mae eich ymrwymiadau maniffesto ar weithredu ar yr hinsawdd, adfer natur, undod byd-eang, a chyfiawnder amgylcheddol yn adlewyrchu gobeithion pobl ledled y wlad. Mae gan Gymru draddodiad balch o undod byd-eang a chefnogaeth i faterion cyfiawnder rhyngwladol; gwerthoedd a welwn bob dydd yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’n cynnwys cariad dwfn at ein tir, cred mewn tegwch, ac uchelgais o ddiogelu’r byd a adawn i genedlaethau’r dyfodol.
Drwy ein gwaith addysgol grymus gyda phlant a phobl ifanc, rydym wedi gweld miloedd ledled Cymru yn cael eu hysbrydoli i feddwl yn greadigol am eu dewisiadau, i weithredu ar yr hinsawdd, a sylweddoli’r rhan y gallant ei chwarae yn eu cymunedau eu hunain. Mae eu hegni, eu dychymyg a’u hymrwymiad yn ein hatgoffa bod dyfodol tecach a gwyrddach yn bosibl, ac eisoes yn cael ei lunio gan y genhedlaeth nesaf.
Rydym yn arbennig o falch o gefnogaeth hirsefydlog Llywodraeth Cymru i Raglen Tyfu Coed Mbale, partneriaeth sydd wedi cysylltu cymunedau yng Nghymru ac Uganda drwy weithredu ar y cyd, undod, a gwydnwch hinsawdd. Mae ei llwyddiant, sef miliynau o goed wedi’u plannu, bywoliaethau wedi’u cryfhau, a thirweddau wedi’u hadfer, yn enghraifft grymus o’r hyn y gall Cymru ei gyflawni pan ehangwn ein gorwelion.
Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd rôl Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu coedwigoedd glaw trofannol, gan gynnwys yr Amazon yn Ne America, sy’n hanfodol i sefydlogi hinsawdd y byd, diogelu bioamrywiaeth, a chefnogi’r cymunedau brodorol a lleol y mae Cymru yn sefyll mewn undod â hwy.
Wrth i Gymru symud ymlaen, mae’n hanfodol peidio colli golwg ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ymrwymiad arloesol byd-eang y mae ein gwaith ni yn ei hyrwyddo’n uniongyrchol drwy weithredu ar yr hinsawdd, cyfrifoldeb byd-eang, a chynllunio hirdymor.
Mae gwybod bod Plaid Cymru wedi bod mor gefnogol i’r gwaith hwn yn rhoi hyder inni y bydd Cymru yn parhau i hyrwyddo cyfrifoldeb byd-eang ochr yn ochr â gweithredu lleol. Edrychwn ymlaen at ddyfnhau’r bartneriaeth hon ac ehangu effaith y rhaglen yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym yn barod i weithio gyda chi, gyda chymunedau lleol a byd-eang, plant a phobl ifanc, a sefydliadau ledled Cymru i helpu troi’r ymrwymiadau hyn yn newid ystyrlon a pharhaol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru’r Genedl Dim Datgoedwigi gybtaf yn y byd, gan ddangos arweinyddiaeth fyd-eang sydd wedi’i gwreiddio mewn gwerthoedd Cymreig a chyfrifoldeb rhyngwladol.