Mae Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Maint Cymru y bydd yn rhoi’r gorau i ariannu Rhaglen Coed Mbale yn Uganda o fis Ebrill 2027 ymlaen.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae’r bartneriaeth hon rhwng Cymru ac Uganda wedi plannu miliynau o goed, cefnogi bywoliaethau a helpu cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd Tim Birch, Cadeirydd Maint Cymru:
“Rydym yn hynod siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi ein hysbysu y bydd yn rhoi’r gorau i ariannu ein rhaglen hanfodol i ddosbarthu eginblanhigion coed yn Uganda o fis Ebrill 2027 ymlaen.
“Ar adeg pan fo’r argyfwng hinsawdd yn dwysáu, mae angen cryfhau ein hymrwymiad i gyfrifoldeb byd-eang, nid cefnu arno.
“Wrth inni baratoi ar gyfer COP31, rhaid i Gymru barhau i ddangos arweinyddiaeth fyd-eang. Mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd er budd pob un ohonom, ac mae gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i ddiogelu ein planed a meithrin y gallu i wrthsefyll newid hinsawdd yn bwysicach nag erioed.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn a pharhau i gefnogi’r partneriaethau hirdymor sydd mor hanfodol i’n dyfodol cyffredin.”
Mae Maint Cymru yn parhau’n ymrwymedig i weithio gyda’n partneriaid yng Nghymru ac ar draws y byd i ddiogelu coedwigoedd, cefnogi cymunedau a mynd i’r afael â newid hinsawdd.