Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!

Credyd: Evilene Paixão / HAY
Technoleg a doethineb Brodorol yn gweithio law yn llaw: mae ein partneriaid Brodorol a chymunedol lleol yn arwain y ffordd wrth warchod coedwigoedd, tiriogaethau a chenedlaethau’r dyfodol.

Credyd: Pepe Torres / FENAMAD
Pobl Frodorol yw gwarcheidwaid gorau coedwigoedd y byd. Heddiw, defnyddir technolegau newydd i ategu doethineb a gwybodaeth Pobl Frodorol.

Credyd: Celso Petsain / GTANW
Daeth Cenedl Wampís ag ynni solar i’w thiriogaeth, gyda chefnogaeth Maint Cymru, Sefydliad Honnold a Llywodraeth Cymru. Cychod yw eu prif ddull o deithio. Mae cychod solar yn lleihau’r defnydd o danwydd drud sy’n llygru’r amgylchedd. Mae’r cychod hefyd yn creu swyddi ym maes peirianneg.

Credyd: Elmo Antonio / GTANW
“Mae technegwyr cychod solar Cenedl Wampís wedi’u hyfforddi i drwsio ac uwchraddio’r cychod sy’n rhoi mynediad haws i gannoedd o bobl at addysg, cymunedau, gofal iechyd a bwyd gwell.”

Credyd: Emmily Melo / HAY
Wedi’u hyfforddi gan Gymdeithas Hutukara Yanomami, gyda chefnogaeth CAFOD, mae pobl ifanc Yanomami a Ye’kuana yn defnyddio dronau i olrhain mwyngloddio anghyfreithlon a datgoedwigo yn ddiogel. Mae’r deunydd fideo yn cefnogi gwaith eiriolaeth ac achosion llys.

Credyd: Evilene Paixão / HAY
“Pan fydd gennym ddronau, gallwn weld sut mae’r glowyr wedi bod yn dod i mewn i’n tir a’n cymuned. Mae’n bwysig iawn cadw’r gymuned yn ddiogel a sicrhau bod pawb yn cadw’n iach.” – Cyfranogwr ifanc Yanomami

Credyd: Daniela Velit / RFUK

Credyd: Pepe Torres / FENAMAD
Yn 2025, adroddodd monitoriaid cymunedol hyfforddedig am 38 achos o dorri coed yn anghyfreithlon, mwyngloddio anghyfreithlon a meddiannu tiriogaeth. Rhannwyd y rhybuddion hyn â’r awdurdodau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd pum ymgyrch yn erbyn gweithgareddau mwyngloddio anghyfreithlon a dinistriwyd peiriannau.

Credyd: Juang Solala a SOS
Mae technoleg yn gallu helpu, ond nid yw’n ateb ynddi’i hun. Mae’n gweithio oherwydd ei bod yn cael ei harwain gan y bobl sy’n adnabod y tir hwn orau.
Cyfrannwch at Maint Cymru i gefnogi pobl y coedwigoedd a’r gwaith o warchod coedwigoedd trofannol y byd.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd