Fel Cyfarwyddwr Maint Cymru ers dros bum mlynedd, rwy’n falch iawn o rannu rhai straeon o’m taith ddiweddar i Mbale yn Uganda, ac i fyfyrio ychydig ar sut mae pethau wedi newid dros y 25-30 mlynedd diwethaf.
Yn 1998, es i Ghana, lle bûm yn byw ac yn gweithio am dros ddwy flynedd fel gwirfoddolwr gyda’r VSO. Ers hynny, nid wyf erioed wedi edrych yn ôl, gan wybod bod coedwigoedd a choed yn bethau arbennig iawn, yn enwedig yn y trofannau.
Bryd hynny, doedd newid hinsawdd ddim yn ymadrodd cyfarwydd. Ond gallwn weld â’m llygaid fy hun pa mor bwysig oedd coed a choedwigoedd i fywyd gwyllt, pobl a’r amgylchedd.
Un peth oedd yn wir bryd hynny ac sy’n dal yn wir heddiw yw mai’r bobl sy’n dioddef fwyaf o newid hinsawdd mewn llefydd fel Affrica Is-y-Sahara yw’r rhai sydd wedi cyfrannu leiaf ato.
Ar fy nhaith ddiweddar i Mbale yn Uganda i fynychu dathliadau’rgcarreg filltir anhygoel o ddosbarthu 25 miliwn o goed yno, fe’m trawyd gan mor syml y gallem wella iechyd y blaned, a bod yr ateb yn gorwedd mewn natur. Coed a choedwigoedd sy’n amsugno’n dawel yr holl garbon rydym yn ei ryddhau, heb ofyn dim yn gyfnewid.
Mae tyfu coed yn y trofannau yn hynod effeithiol. Mae coed yn tyfu o leiaf bedair gwaith yn gyflymach ger y cyhydedd, felly maent yn dal carbon yn llawer cyflymach na choed a blannir mewn ardaloedd tymherus fel Cymru. Bioleg syml, ond mae’r oblygiadau yn enfawr.
Bob tro rwy’n edrych ar effaith Rhaglen Tyfu Coed Mbale, rwy’n rhyfeddu at raddfa’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Rydym wedi cefnogi ein partneriaid gwych, Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE) yn Uganda, i ddosbarthu dros 26 miliwn o goed yn rhad ac am ddim i ffermwyr, ysgolion a chymunedau. Mae hynny’n cyfateb i tua 1.4 miliwn tunnell o CO₂ wedi’i amsugno – tua 25% o allyriadau trafnidiaeth blynyddol Cymru.
Pan oeddwn yn Uganda y llynedd, cyfarfûm ag Yusaf Makabuli, Swyddog Estyn METGE, yn y digwyddiad dathlu 25 miliwn o goed. Meddai Yusaf: