Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Wedi cyflawni eu Gwobr Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo ym mis Gorffenaf, 2024.
Ar ôl dysgu am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol ac effaith datgoedwigo sy’n gysylltiedig â chynnyrch amaethyddol bob dydd, aeth myfyrwyr Blwyddyn 6 yn St Joseph’s ati i fynd allan ar eu cenhadaeth dim datgoedwigo.
Ar ôl ymchwilio i’w prydau ysgol, fe wnaethant wahodd cwmni arlwyo eu hysgol i gyfarfod busnes, lle gwnaethant gyflwyno eu canfyddiadau ar balmwydd, soia, cig eidion a chacao, a chlywed am fesurau cynaliadwyedd y cwmni hyd yn hyn. Dysgodd y cwmni arlwyo lawer gan y myfyrwyr, yn enwedig am borthiant soia anifeiliaid ac olew palmwydd, ac fe wnaethant addo ymchwilio i’r cynnyrch eu hunain.
Fe wnaeth y myfyrwyr greu arolwg hefyd, i ddysgu am arferion prynu coffi’r oedolion yn eu hysgol, a chyflwyno cyflwyniad i’r staff am y pwysigrwydd o ddewis cynnyrch Masnach Deg.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd