Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw’r corff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer yr elusen, ac mae pob ymddiriedolwr yn dod yn gyfarwyddwyr anweithredol cwmni. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am osod strategaeth gyffredinol, ac am sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni gan Gyfarwyddwr Maint Cymru, Dirprwy Gyfarwyddwr a’r tîm ehangach o 16. Mae’r Bwrdd yn cynnwys pobl sy’n dod â’r ystod o sgiliau proffesiynol a phrofiad personol a chyflogaeth sydd eu hangen i sicrhau bod yr elusen yn cael ei llywodraethu’n dda.
- Y tymor arferol yn y swydd ar gyfer Ymddiriedolwr yw tair blynedd, a gellir ei ymestyn.
- Mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr fynychu pedwar cyfarfod Bwrdd y flwyddyn yng Nghaerdydd neu’n ddigidol, ynghyd â’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae Ymddiriedolwyr yn cael eu hannog hefyd i ymuno ag un is-bwyllgor, fel yr Is-bwyllgor Risg neu’r Pwyllgor Moeseg. Efallai y bydd cyfathrebu ad hoc rhwng Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Maint Cymru a Dirprwy Gyfarwyddwr yn digwydd hefyd drwy e-bost, WhatsApp, ffôn a chynhadledd fideo.
- Mae’r swyddi yn wirfoddol, a bydd costau teithio rhesymol yn cael eu had-dalu.
- Mae’r amser sydd ei angen i gyflawni’r rôl hon oddeutu un diwrnod y mis, er bod adegau pan fydd hyn yn uwch. Gall ymrwymiad y tu allan i gyfarfodydd fod ar adegau sy’n addas i chi’ch hun.
- Darperir hyfforddiant a mentora os oes angen, ac mae cyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa ac eich cyfnod fel ymddiriedolwr yn cael eu hannog, fel cynrychioli Maint Cymru mewn digwyddiadau fel cynadleddau, neu ddod yn arweinydd ar gyfer rhanbarth prosiect, is-bwyllgor neu faes rhaglen.