Mae Prosiect Coed Mbale yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae datgoedwigo ym Mbale yn achosi tywydd anrhagweladwy a safonau byw sy'n dirywio. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae Rhaglen Plannu Coed Mbale yn plannu miliynau o goed bob blwyddyn, ac yn darparu cyfleoedd bywoliaeth gynaliadwy i'r gymuned.
Mae gan Uganda un o’r cyfraddau uchaf o golli coedwigoedd yn y byd. Rhwng 2001 a 2020, collodd y wlad 918,000 hectar o orchudd coed, gostyngiad o 12%. Yn seiliedig ar dueddiadau cyfredol, mae’n peryglu colli ei gorchudd coedwig cyfan erbyn 2040.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae Maint Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’u partner lleol, Menter Tyfu Coed Mynydd Elgon (METGE) i weithredu Rhaglen Tyfu Coed Mbale. , Mae’r rhaglen wedi’i lleoli yn rhanbarth Mynydd Elgon yn Nwyrain Uganda ac mae’n cefnogi ffermwyr lleol i dyfu coed a hyrwyddo bywoliaethau cynaliadwy.
Mae Mbale yn ardal fryniog fawr sydd wedi cael ei datgoedwigo’n drwm yn bennaf oherwydd ehangu amaethyddiaeth; galw cynyddol am goed tanwydd a golosg; ac amddiffyniadau cyfreithiol gwan a gorfodi deddfau diogelu coedwigoedd.
Mae’r tywydd, oedd unwaith yn rhagweladwy, wedi dod yn afreolaidd ac mae’r priddoedd lleol, sydd wedi’u ansefydlogi gan leihau coed a glaw trwm, yn achosi llifogydd a thirlithriadau. Mae tirlithriadau wedi arwain at golli cartrefi, ysgolion, da byw ac weithiau’n costio bywydau.
Mae Rhaglen Tyfu Coed Mbale yn cefnogi’r gymuned leol i blannu, meithrin a gwarchod coed. Bydd y coed hyn yn:
Mae rhaglen y prosiect yn gweithio ar y cyd â dau bartner gweithredu lleol i ddosbarthu dros 2 miliwn o eginblanhigion coed a dyfir mewn meithrinfa bob blwyddyn i ffermwyr tyddynnol lleol, cwmnïau cydweithredol amaethyddol, teuluoedd, eglwysi ac ysgolion yn rhad ac am ddim.
Ers i’r rhaglen ddechrau 15 mlynedd yn ôl, mae rhwydwaith o feithrinfeydd coed cymunedol wedi dosbarthu dros 25 miliwn o goed i ffermwyr gwledig ac ysgolion yn rhad ac am ddim. Mae’r coed hynny wedi atafaelu amcangyfrif o 1.4 miliwn tunnell o CO2 ers dechrau’r prosiect. Mae hynny’n yr un swm â 25% o allyriadau trafnidiaeth blynyddol Cymru. Wrth i ni gyfrannu at leihau allyriadau CO2, rydym yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sydd efallai’r bygythiad mwyaf i ddynoliaeth. Mae’r coed hefyd yn darparu manteision lleol enfawr, gan sefydlogi’r pridd, darparu ffrwythau a phorthiant i anifeiliaid a phren ar gyfer adeiladu.
Mae llawer o’r coed a blannwyd yn rhan o raglan Plant! Llywodraeth Cymru, cynllun sy’n dathlu genedigaeth pob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru drwy blannu dwy goeden. Un mewn coetir newydd yng Nghymru a’r llall ym Mbale.
Fel cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, credwn fod cefnogi rhaglen sy’n ariannu plannu coed ar y cyhydedd, lle mae cyfraddau twf yn fwy na phedair gwaith yn gyflymach nag yma yng Nghymru, yn dod o fudd i bobl Cymru wrth i ni geisio brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Felly, gellir plannu mwy o goed yn y trofannau dros ardal fwy, a bydd y coed hyn yn dal carbon yn gyflymach na nifer cyfatebol y tu allan i’r trofannau. Diolch i’r prosiect, mae gorchudd coedwig hefyd saith gwaith yn uwch o fewn radiws 5 km i’r meithrinfeydd nag ymhellach i ffwrdd.
Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau cymdeithasol a hyrwyddo arweinyddiaeth menywod yn rhedeg ar draws yr holl weithgareddau o fewn y prosiect. Mae nifer y meithrinfeydd coed sy’n cael eu rhedeg gan fenywod wedi cynyddu ac mae’r rhaglen wedi cefnogi grwpiau menywod mewn gweithgareddau fel cadw gwenyn a mwy o gyfranogiad menywod yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr aelwyd a’r gymuned leol.
Mae’r rhaglen yn darparu cyflogaeth uniongyrchol i 88 o bobl. Mae’r rolau yn cynnwys gweithwyr meithrinfeydd, gweithwyr estyniad, clercod data a hwyluswyr cymunedol. Mae’r rolau hyn yn cefnogi cyflawni’r rhaglen, gan gynnwys cynyddu cyrhaeddiad pobl sy’n ymwybodol o eginblanhigion am ddim a derbyn eginblanhigion am ddim.
Mae deall a mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n gyrru datgoedwigo yn allweddol o gynllunio’r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu siarcol sy’n achosi datgoedwigo ac yn cael ei waethygu gan ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth.
Mae effeithiau a mentrau i fynd i’r afael â hyn yn cynnwys:
Mae’r gymuned yn cael eu hyfforddi ar bynciau perthnasol gan gynnwys sut i feithrin coed, arferion ffermio cynaliadwy, amaethgoedwigaeth a ble i blannu coed at y diben neu’r canlyniad gorau. Mae’r rhain yn aml yn cael eu cynnal fel sesiynau rhannu gwybodaeth dan arweiniad cymheiriaid.
Yn ogystal â lleihau effaith newid yn yr hinsawdd, mae’r rhaglen hon hefyd o fudd i Gymru drwy’r partneriaethau a feithrwyd rhwng pobl Cymru ac Uganda, yn enwedig pobl ifanc. Mae Maint Cymru wedi gweithio gyda miloedd o blant mewn ysgolion i ddod yn ddinasyddion gweithgar, cyfrifol, byd-eang. Mae’r sesiynau hyn yn helpu pobl ifanc i deimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed, yn meithrin undod byd-eang ac yn helpu i leihau pryder hinsawdd.
Mae Prosiect Coed Mbale yn dangos ymrwymiad Cymru i gyfiawnder hinsawdd a dileu tlodi. Nid yw dinasyddion gwledig Uganda wedi gwneud fawr ddim i greu newid hinsawdd sy’n achosi cymaint o broblemau iddynt. Trwy ariannu’r prosiect hwn dan arweiniad Uganda, mae Cymru yn helpu cymunedau sy’n byw ar rheng flaen yr argyfwng hinsawdd, addasu i newid yn yr hinsawdd a gwella eu bywoliaethau.
Mae’r brand coffi Jenipher’s Coffi yn ddatblygiad cyffrous sydd wedi cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Uganda.
Mae’r coffi organig hwn, sydd wedi’i ardystio’n goffi masnach deg, yn cael ei dyfu ym mryniau Mount Elgon gan gydweithfa ffermwr coffi o’r enw MEACCE. Mae MEACCE, sydd hefyd yn un o bedwar partner gweithredu Rhaglen Plannu Coed Mbale, yn helpu i ddosbarthu a thyfu planhigion coed sy’n darparu cysgod ac amddiffyniad rhag tywydd eithafol yn y pen draw, ac sy’n cynyddu ansawdd a chynnyrch coffi.
Mae partneriaid yng Nghymru ac Uganda wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â’r coffi blasus i Gymru, a gellir ei brynu ar-lein neu mewn siopau Masnach Deg ar draws y wlad.
Dysgwch fwy am ble mae coed yn cael eu tyfu ym Mbale ar y map isod a’r wefan newydd hon.
Mae Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE) yn goruchwylio gweithrediad y prosiect yn Mbale. Maent yn gweithio gyda dau corff anllywodraethol lleol. Y partneriaid hyn yw MEACCE (Mount Elgon Agroforestry Communities Cooperative Enterprise) a Bungokho Rural Development Centre.
Mae Prosiect Coed Mbale yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd