Mae datgoedwigo yn her amgylcheddol enfawr yn Uganda, gyda thua 2% o’i gorchudd coed yn cael ei golli bob blwyddyn. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), sy’n bartner i Maint Cymru, yn adeiladu stofiau sy’n arbed ynni ac ar yr un pryd, yn plannu miliynau o goed, a gwella bywydau ar hyd y ffordd.
Mae Mbale yn Nwyrain Uganda wedi colli swm enfawr o goed, sy’n cael eu defnyddio’n bennaf i greu brics ac ar gyfer coginio. Mae METGE yn ymgysylltu â chymunedau lleol drwy blannu coed yn yr ardal a chefnogi’r bobl leol i adeiladu stofiau Lorena sy’n arbed ynni, gyda’r nod o osod 1,000 yn 2021.
Mae’r stôf yn cael ei gwneud yn bennaf o glai, briciau, tywod a llif llwch, yr holl ddeunyddiau sydd ar gael yn rhwydd. Mae gan y stôf ddau bot siambr ffwrn effeithlon, gyda ffliw sy’n cysylltu y tu allan i wella effeithlonrwydd ymhellach. Mae’r ffliw yn lleihau’r mwg sy’n cronni yn y gegin hefyd, ac yn creu cartref mwy iach i fyw ynddo. Mae’r stôf Lorena yn welliant enfawr o’i gymharu â’r stofiau tair carreg traddodiadol sydd yn aml yn cael eu defnyddio gan bobl leol. Mae’n defnyddio llawer llai o danwydd, ac mae’n gyflymach, yn fwy diogel, ac yn cadw gwres am lawer hirach.
Un o’r rheiny a dderbyniodd stôf Lorena yw Alice Muduwa, sy’n gofalu am 5 o blant yn Ardal Sironko yn Nwyrain Uganda. Collodd Alice ei golwg yn 17 oed a chyn hynny, roedd hi’n cael trafferth coginio gyda thanau fflam agored. Nawr, mae hi’n defnyddio stôf Lorena, ac meddai, “Mae’n hawdd i mi ddod o hyd i’r stôf, ei goleuo, a pharatoi bwyd i fy nheulu”. Erbyn hyn, mae Alice yn bwydo ei theulu drwy’r dydd yn defnyddio’r un faint o goed a fyddai’n darparu un pryd bwyd o’r blaen, dydy hi ddim yn cael trafferth gyda mwg o dân agored rhagor, ac mae’r stôf yn aros yn gynnes nes i’w gŵr ddychwelyd o’r gwaith.
Oherwydd dyluniad syml y stôf a’i defnydd o ddeunyddiau sy’n hygyrch yn lleol, mae’r stôf Lorena yn opsiwn amgen fforddiadwy o’i gymharu â stofiau drud sy’n cynhyrchu mwg uchel. Meddai Alice, “Mae prosiectau fel hyn yn gwneud bywyd yn hawdd i rai ohonom sydd heb fawr o obaith o gael stofiau coginio modern oherwydd eu bod nhw’n rhy ddrud”.
Mae adeiladu’r stôf Lorena yn enghraifft wych o ddefnyddio nifer o dactegau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn gyntaf, mae arafu’r gyfradd ddatgoedwigo yn helpu i ddiogelu ecosystemau naturiol Uganda, ac yn ymestyn ei gallu i gefnogi bywoliaethau. Yn ail, mae creu amgylcheddau di-fwg lle mae preswylwyr yn gallu coginio ynddynt, yn arwain at ffordd o fyw mwy iach. Yn olaf, mae stofiau effeithiolrwydd gwell yn golygu bod angen casglu llai o goed, ac y gellir treulio amser ar dasgau pwysig eraill.
Nod Rhaglen Plannu Coed Mbale ydy cynyddu gwydnwch cymunedol i effeithiau newid yn yr hinsawdd, drwy ymaddasu a lliniaru. I ddysgu mwy am sut mae gosod stofiau Lorena yn cefnogi’r nodau a’r amcanion hyn, cliciwch yma.