
Mae coedwigoedd Wganda dan fygythiad difrifol; yn wir, maen nhw’n cael eu colli ar gyfradd o 1.8% y flwyddyn. Rhwng 1990-2010, collodd Wganda 31% o’i gorchudd coed, sy’n ostyngiad o 5 miliwn hectar i 3.6 miliwn hectar.
Mae ein prosiect wedi’i leoli ym Mbale yn Nwyrain Wganda, ardal fryniog fawr sydd wedi cael ei datgoedwigo’n helaeth, yn bennaf drwy ehangu amaethyddol, galw cynyddol gan boblogaeth sy’n tyfu am danwydd a siarcol, torri coed oherwydd amddiffyniad cyfreithiol gwan, a methiant o ran gorfodi deddfau diogelu coedwigoedd. Roedd y glaw wedi dod yn afreolaidd, a phan gyrhaeddodd, roedd y glaw trwm yn achosi tirlithriadau ac weithiau, yn profi’n angheuol.
Nod cyffredinol y prosiect ydy cynyddu gwytnwch cymunedol mewn perthynas ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yn rhanbarth Mbale o Wganda, drwy ymyriadau addasu a lliniaru.
Dyma’r amcanion penodol:
• Lliniaru Tlodi: Cyfrannu at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig drwy wella a diogelu cynnyrch cnydau ac yn sgîl hynny, diogelwch bwyd, gan arwain at fywoliaethau mwy cynaliadwy. Mae pwysau arbennig yn cael ei roi ar rymuso grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig menywod, pobl ifanc a phobl sydd ag anableddau, mewn arferion agro-goedwigaeth a rheoli tir cynaliadwy.
• Addasu i Newid yn yr Hinsawdd: Helpu’r rhanbarth i ddatblygu ei gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael ag effeithiau andwyol datgoedwigo, goramaethu, erydu pridd a thirlithriadau, drwy newid agwedd a diwylliant mewn perthynas â phlannu coed a chadwraeth amgylcheddol. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gynyddu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd.
• Lliniaru Newid yn yr Hinsawdd: Cynorthwyo i liniaru newid yn yr hinsawdd drwy leihau dibyniaeth ar goed a siarcol fel tanwydd, yn enwedig mewn stofiau coginio, ac archwilio cyfleoedd i atafaelu carbon a defnyddio’r Farchnad Carbon Wirfoddol i gynhyrchu incwm ychwanegol i ffermwyr.
Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda chyrff anllywodraethol lleol a meithrinfeydd coed i blannu 10 miliwn o goed, ac mae’n cyflogi 55 o staff o’r cyrff anllywodraethol hynny. Mae’r meithrinfeydd yn dosbarthu eginblanhigion yn ystod y tymor glawog – ac ar ôl plannu 7.5 miliwn o goed, mae hwn eisoes wedi ei hunanreoleiddio unwaith eto – i ffermwyr, ysgolion, busnesau ac unigolion lleol. Mae’r staff wedi cael eu hyfforddi mewn sgiliau fel agro-goedwigaeth, mapio GPS, ac mewn rheoli meithrinfeydd coed, ymhlith eraill.
Mae staff y prosiect yn addysgu cymunedau lleol hefyd ynghylch y manteision o gadw’r coed i sefyll. Gallai coeden sy’n cael cyrraedd ei llawn dwf dyfu ffrwythau neu ddarparu meddyginiaethau, er enghraifft. Er mwyn cymell cymunedau ymhellach i gadw’r coed wedi’u plannu ar eu traed, rydym yn hyrwyddo ac yn galluogi cyfleoedd bywoliaeth ar raddfa fechan sy’n cael eu hintegreiddio â’r coed. Er enghraifft, gellir gosod cychod gwenyn yn y coed i ffermio mêl, neu bydd coed sy’n darparu cysgod i blanhigfeydd coffi o fudd i ffermwyr coffi.
Ar lefel fyd-eang, bydd y 10 miliwn o goed hyn yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, drwy amsugno symiau mawr o garbon.
Mae’r prosiect wedi’i gysylltu â chynllun Plant! Llywodraeth Cymru hefyd, sef cynllun sydd bellach yn ei 10fed flwyddyn.
Mae Plant – sy’n golygu plentyn yn Gymraeg – yn dathlu genedigaeth pob plentyn a aned neu a fabwysiadwyd yng Nghymru trwy blannu dwy goeden. Mae un yn cael ei phlannu mewn coetiroedd newydd yng Nghymru, sydd yn sicrhau coed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac sydd ar yr un pryd, yn meithrin perthynas bersonol agos â natur o oedran cynnar hefyd. Mae’r llall yn cael ei phlannu yn Mbale, ac yn helpu i gyrraedd ein targed o 10 miliwn o goed.
Mae coedwigoedd Wganda yn gartref i o leiaf 7.5% o rywogaethau mamaliaid hysbys y byd, a ic 11% o rywogaethau adar y byd. Mae mwy na 1,000 o rywogaethau adar yn y byd (yn ôl y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol).
Mae ein prosiect yn gwasanaethu chwe ardal yn Rhanbarth Dwyreiniol Wganda, sef Mbale, Bududa, Manafwa, Bulambuli, Sironko a Namisidwa, sydd yn gorwedd ar lethrau deheuol a de-orllewinol Mynydd Elgon, llosgfynydd diffoddedig, sy’n ymestyn ar draws ffin Wganda a Kenya. Gyda’i gilydd, mae’r chwe ardal yn gorchuddio ardal o fwy na 180,000 hectar, gydag uchder sy’n amrywio rhwng 1,500 a 4,300m uwchben lefel y môr.
Cyfanswm poblogaeth y rhanbarth hwn yw oddeutu 1.26 miliwn. Mbale yw’r ddinas fwyaf trwchus ei phoblogaeth. Y bwriad yn wreiddiol oedd i Mbale fod yn brifddinas Wganda cyn i Kampala dderbyn y teitl hwn. Wrth i chi adael Mbale, mae tirwedd yr ardaloedd cyfagos yn dod yn fwy gwledig, ac mae’n bennaf yn cynnwys cymunedau ffermio mynydd.
Mae’r cymunedau hyn yn cael dau dymor o law y flwyddyn. Daw’r cyntaf yn gynnar ym mis Ebrill a’r ail ym mis Gorffennaf. Mae’r hinsawdd yn y rhanbarth yn llaith ac yn drofannol, gyda thymheredd blynyddol cymedrig uchaf o 27oC-32oC. Mae’r glawiad cyfartalog o amgylch tref Mbale yn amrywio o 880 i 1,775mm y flwyddyn, gyda chymedr o 1,186mm. Mae’r glawiad cyfartalog yn cynyddu i 2,000 mm o gwmpas Mynydd Elgon, a dyma o ble mae afonydd y rhanbarthau’n tarddu.
Article: Wales has planted 10 million trees in Uganda Source: World Economic Forum 28/10/19
News: Cwmcarn Primary School pupils plant tree as part of Size of Wales Mbale programme 12/10/19
News: First Minister to Plant! 10 millionth Tree Source: The Welsh Government 11/10/19
Article: Ten Trees for Christmas campaign success. Source: Size of Wales. 28/01/2019
Map: Where are the tree nurseries around Mbale? Source: Googlemaps. 2018
Article: Uganda landslide near Mount Elgon kills more than 30. Source: BBC Africa. 12/10/2018
Blog: Anna’s East African Experience. Source: Size of Wales. 05/05/2018
Video: Uganda landslides: Why do villagers move back? Source: BBC News. 02/05/2018
Event: Hay Festival: Prof Siwan Davies and Elin Rhys, Her y Hinsawdd
Press Release: Six Million Trees Planted in Uganda Thanks to Size of Wales and Support from the People of
Wales. Source: Size of Wales. 20/11/2017
Press Release: Plant! Reaches 300,000 Tree Milestone. Source: Size of Wales. 27/09/2017
Article: Project News: 10 Million Trees. Source: Size of Wales. 10/05/2017
Article: A Shopping List for Trees: What Can Your Donation Buy? Source: Size of Wales. 30/04/2017
Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE) oversees the project’s implementation in Mbale. They work with four local NGO’s who run a total of 39 nurseries. These partners are Share an Opportunity, Salem Brotherhood, MEACCE (Mount Elgon Agroforestry Communities Cooperative Enterprise) and Bungokho Rural Development Centre.