Mae’n bleser gan Maint Cymru gyhoeddi prosiect newydd sy’n hyrwyddo cyfranogiad menywod mewn cyfiawnder hinsawdd a rheoli adnoddau naturiol yn Uganda.
Bydd y prosiect yn cael ei redeg gan bartneriaid Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE), International Tree Foundation (ITF) a Masaka District Landcare Chapter Leadership (MADLACC).
Manylion prosiect
Yn Uganda, mae dosbarthu pŵer, adnoddau a chyfrifoldebau yn annheg o blaid dynion wedi arwain at fenywod a merched yn cael eu heithrio’n rhannol/yn llawn o feysydd economaidd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol mewn cymdeithas.
Trwy integreiddio ffocws arbennig ar rywedd i mewn i weithgareddau a pholisi newid hinsawdd sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, bydd y prosiect hwn yn galluogi menywod gwledig i ddod yn gyfryngau newid pwysig. Bydd y prosiect yn cynnal asesiad rhywedd hefyd i ddeall yn well yr heriau a’r cyfleoedd presennol mewn perthynas â gallu menywod i gymryd rhan.
Yn seiliedig ar ganlyniadau’r asesiad hwn, bydd y prosiect yn cynnig cymorth i fenywod gyda hyfforddiant wedi’i deilwra, rhwydweithio a mynediad at adnoddau fel cronfeydd hadau, gwrteithiau organig, offer, cychod gwenyn i sefydlu mentrau sy’n ystyriol o natur. Bydd y prosiect yn dogfennu ac yn rhannu arferion gorau a’r gwersi a ddysgwyd ac astudiaethau achos ysbrydoledig ymhlith partneriaid yng Nghymru ac Affrica a’r cyhoedd yng Nghymru.

Llun o grŵp merched Mpugwe o ranbarth Masaka