Danfon e-card Maint Cymru yr Ŵyl yma a Rhoi yn ôl i Natur
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Coed yr Ŵyl yw ymgyrch codi arian blynyddol Maint Cymru i gefnogi ein prosiectau coedwig partner draws y byd.
Mae partneriaid coedwig fel Regrow Borneo yn adfer coedwigoedd trofannol trwy dyfu coed cymunedol sy’n foesegol ac yn cael ei arwain gan ymchwil. Maent nid yn unig yn helpu i ddal carbon ond maent yn plannu coed mewn ffyrdd sy’n gwella bywoliaethau lleol ac yn gwella bioamrywiaeth, fel yr eliffant Borneo neu’r orangwtan sydd mewn perygl.
Rydym hefyd yn codi arian i gefnogi ein partneriaid coedwigoedd brodorol anhygoel, sef gwarcheidwaid gorau ein coedwigoedd gwerthfawr. Yn Ne America, mae y Guarani, Yanomami a Cenedl y Wampís yn amddiffyn coedwig yr Amazon a’r Iwerydd rhag mwyngloddio aur anghyfreithlon a busnesau amaethyddol mawr, gan beryglu eu bywydau yn aml.
Mae coed yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau pawb. Maen nhw’n amsugno carbon, yn cynnal bywyd gwyllt, yn darparu bwyd, ac yn atal tirlithriadau. Mae ganddynt arwyddocâd diwylliannol ehangach ar draws y byd hefyd, yn enwedig ym mis Rhagfyr, pan fydd llawer o bobl yn dod at ei gilydd o amgylch coeden gyda’u hanwyliaid.
Mae Coed yr Ŵyl yn ffordd wych o ymestyn cyfeillgarwch ar draws ffiniau, a dathlu coed!
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ymgyrch wedi helpu cymunedau yn Boré, Kenya, i blannu dros 100,000 o goed a dyblu capasiti meithrinfeydd coed lleol.
Rydym yn annog busnesau ar draws Cymru i gymryd rhan a gwneud un o’r canlynol:
Ynghyd â rhoi, gallwch gefnogi’r ymgyrch trwy brynu eGardiau sy’n helpu cymunedau i warchod a phlannu coed. Rydym hefyd yn annog busnesau a’u cwsmeriaid i gymryd rhan.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi ein hymgyrch, defnyddiwch y ffurflen gyswllt isod, neu e-bostiwch [email protected]
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd