Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Prosiect ydy Regrow Borneo i adfer coedwigoedd trofannol drwy ailblannu’n foesegol, yn dryloyw a dan arweiniad ymchwil. Nid cadw carbon yn unig yw'r nod, ond plannu coed mewn ffyrdd sy'n gwella bywoliaeth cymunedau lleol a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau.
Y Kinabatangan yw’r afon fwyaf yn Borneo, ac mae ei gorlifdir yn fan hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth. Mae hi hefyd yn gartref i rywogaethau sydd mewn perygl fel yr orangwtan Borneaidd. Ers y 1950au, mae dirywiad coedwigoedd a datgoedwigo wedi cynyddu’n sylweddol, gan fygwth bioamrywiaeth a lleihau’r gwasanaethau economaidd, diwylliannol, a chymdeithasol y mae’r goedwig yn eu darparu ar gyfer cymunedau lleol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae datgoedwigo wedi cael ei sbarduno gan y cynnydd mewn planhigfeydd olew palmwydd sydd bellach yn gorchuddio 80% o’r ardal.
Mae gan brosiect Regrow Borneo ychydig o nodau syml ac mae’n ceisio:
Mae partneriaid y prosiect, The Danau Girang Field Centre, yn ganolfan ymchwil sy’n arbenigo mewn cadwraeth ecosystemau trofannol. Mae’n darparu rhaglenni allgymorth ac ymwybyddiaeth ar gyfer cymunedau lleol ac ar gyfer rhanddeiliaid lleol eraill hefyd, fel eco-dwristiaeth leol a phlanhigfeydd olew palmwydd. Mae’r prosiect yn darparu swyddi ar gyfer cymunedau lleol sy’n chwarae rhan ganolog mewn nid yn unig plannu, ond mewn cynnal a chadw a monitro’r gwaith o adfer coedwigoedd hefyd.
Ar y cyfan, mae’r prosiect yn ceisio datblygu model ar gyfer adfer coedwigoedd, sy’n meddwl y tu hwnt
i blannu coed, tuag at fanteision integredig coedwig iach i gymunedau, bioamrywiaeth, a’r hinsawdd.
Mae Regrow Borneo wedi’i leoli yn y DU gyda chysylltiadau cryf â Phrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect yn plannu coed yn Noddfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf, Sabah, Malaysia. Mae Regrow Borneo yn dod ag arbenigedd gwyddonol a chyfoeth gwybodaeth a phrofiad lleol sefydliadau ailgoedwigo cymunedol lleol y Kinabatangan gyda’i gilydd.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd