Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae coedwig y Wampís yn yr Amazon ym Mheriw yn hanfodol i'r frwydr fyd-eang yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae'r prosiect hwn yn cefnogi'r Wampís i fonitro’r newid yn y defnydd o’r tir, herio gweithgareddau anghyfreithlon, a chryfhau llais y gymuned.
Mae’r Amazon ym Mheriw yn gartref i fwy na 51 o grwpiau brodorol, sy’n cynnwys y Wampís, sydd wedi datblygu ffordd o fyw sydd wedi’i gysylltu’n llwyr â’r tir.
Mae tiriogaeth y Wampís yn rhychwantu bron i 1.4 miliwn hectar, ac mae’n fan poblogaidd byd-enwog ar gyfer bioamrywiaeth. Mae coedwigoedd y Wampís yn cyfrannu’n sylweddol at liniaru newid yn yr hinsawdd ym Mheriw ac yn rhyngwladol. Mewn dwy flynedd yn unig, amcangyfrifir bod tiriogaeth y Wampís yn amsugno’r un faint o garbon â thargedau lleihau carbon 10 mlynedd cyfan Periw.
Nid yw Llywodraeth Periw wedi cydnabod y cyfan o diriogaeth y Wampís yn gyfreithiol eto, sy’n ei gwneud yn anos i’r gymuned ddiogelu eu coedwigoedd hynafol. Maen nhw’n profi tresmasu o ddiwydiannau echdynnol, sy’n cynnwys torri coed yn anghyfreithlon, mwyngloddio aur, ac ecsbloetio olew a nwy, yn ogystal â’r bygythiad o adeiladu argae mawr a phriffordd.
Yn seiliedig ar weledigaeth y Wampís ar gyfer eu tiriogaeth a’u dyfodol, nod y prosiect hwn yw diogelu eu coedwigoedd drwy hyrwyddo llywodraethu brodorol cryf, a sicrhau cymunedau teg a gwydn drwy ehangu bywoliaethau dan arweiniad y gymuned
Gyda chefnogaeth gan bartneriaid, bydd y Wampís yn gwneud y canlynol hefyd:
Yn ystadegol, mae coedwigoedd sy’n cael eu meddiannu a’u rheoli gan Bobl Frodorol yn gweld cyfraddau îs o ddatgoedwigo. Felly, mae grymuso cymunedau fel y Wampís yn hanfodol i gadw bioamrywiaeth a diogelu’r hinsawdd yn fyd-eang.
Mae Forest Peoples Programme (FPP) wedi’i lleoli yn y DU ond yn gweithio gyda chymunedau sy’n byw mewn coedwigoedd ledled y byd, gan eu cefnogi i hyrwyddo gweledigaeth amgen o sut y dylid rheoli a rheoli coedwigoedd, yn seiliedig ar barch at hawliau’r bobl sy’n eu hadnabod gorau.
Dysgwch fwyMae GTANW (Llywodraeth Diriogaethol Ymreolaethol Cenedl y Wampís), yn cynrychioli Cenedl y Wampís, ac fe’i sefydlwyd yn 2015, gan ffurfio llywodraeth ymreolaethol frodorol gyntaf Periw. Maen nhw’n cefnogi cynllun bywyd y Wampís i gyflawni egwyddorion Tarimat Pujut – byw’n dda yn heddychlon a chytûn.
Dysgwch fwyCyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd