Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae'r prosiect hwn yn cefnogi’r gymuned Guarani a'u sefydliad cynrychioliadol i atgyfnerthu eu hawliau a diogelu eu tiriogaeth yn erbyn diraddio'r bïom, sy'n hanfodol ar gyfer bodolaeth y bobl hyn.
Y Guarani yw’r grŵp mwyaf o Bobloedd Frodorol yn America Ladin. Mae llawer o gymunedau Guarani yn byw mewn tiroedd heb deitl neu ar wersylloedd bach wrth ymyl priffyrdd. Mae eu tiriogaethau yng Nghoedwig yr Iwerydd ym Mrasil, lle mai dim ond 7% o’i goedwigoedd sy’n dal i fod yn gyfan.
Mae Coedwig yr Iwerydd yn dirwedd hanfodol, ac fe’i hystyrir yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth amgylcheddol. Mae ganddi tua 5% o fioamrywiaeth y byd, ac mae’r dyfrffyrdd yn darparu dŵr yn uniongyrchol i tua 67% o boblogaeth Brasil.
Dengys data fod gweddill y gorchudd coedwig diolch i warchodaeth y gymuned Guarani. Yn wir, mae gorchudd llystyfiant bron 100% ar diroedd y gymuned Guarani sydd yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol. Mae hyn yn profi mai Pobl Frodorol yw gwarcheidwaid gorau coedwigoedd y byd.
Fodd bynnag, mae nifer yr achosion eang o ffermio soi ar dir traddodiadol y Guarani yn achosi lefelau uchel o ddatgoedwigo, ac yn peryglu eu bywydau a’u bywoliaeth. Yn ogystal, mae priddoedd wedi’u disbyddu o or-ffermio gan bobl sydd ddim yn rhai brodorol, patrymau tywydd cynyddol anghywir, iechyd y Guarani, diogelwch bwyd a’u gallu i gynnal arferion brodorol traddodiadol, i gyd dan fygythiad mawr.
Mae Comissão Guarani Yvyrupa (CGY) yn sefydliad brodorol annibynnol. Eu cenhadaeth yw amddiffyn hawliau tiriogaethol y gymuned Guarani, gwella diogelwch bwyd, a chryfhau arferion traddodiadol. Mae eu gwaith yn cael ei arwain gan Gynllun Bywyd Guarani, a thraddodiadau ac arferion diwylliannol y gymuned honno.
Elusen yn y DU ydy Synchronicity Earth, sy’n arbenigo mewn sianelu cymorth i sefydliadau ar lawr gwlad mewn ffordd sy’n ddiogel, yn effeithlon ac yn hyblyg. Mae staff profiadol Synchronicity Earth yn gweithio’n agos gyda CGY i godi a rheoli cyllid i gefnogi ei waith.
Er mwyn diogelu ei goedwig a’u hawliau tiriogaethol, mae CGY yn cryfhau eu gallu cyfreithiol i gefnogi’r gymuned Guarani i gael teitlau tir ac adennill mynediad cyfreithiol i’w tiroedd.
Un agwedd hanfodol ar y prosiect yw cryfhau rôl a chyfranogiad menywod wrth wneud penderfyniadau gwleidyddol. Mae menywod yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo arferion ffermio traddodiadol ac adfywiol, a rhannu gwybodaeth draddodiadol fel defnyddio meddyginiaethau planhigion, bwyd, caneuon sanctaidd, a chyfnewid hadau.
Gydag integredd diwylliannol y gymuned Guarani yn cael ei gryfhau; gweledigaeth gydlynol ar gyfer y dyfodol; gyda phob agwedd ar y gymuned yn ymwneud â gwneud penderfyniadau, a chyda chapasiti cyfreithiol cryfach, mae gan y gymuned Guarani y cyfleoedd gorau i gael eu hawliau tiroedd wedi’u cydnabod.
Mae Comissão Guarani Yvyrupa (CGY) yn sefydliad brodorol ymreolaethol. Eu cenhadaeth yw amddiffyn hawliau tiriogaethol y bobl Guarani, gwella diogelwch bwyd, a chryfhau arferion traddodiadol.
Dysgwch fwyMae Synchronicity Earth yn elusen gadwraeth sydd wedi’i chofrestru yn y DU sy’n ariannu cadwraeth sy’n gweithio drwy fynd i’r afael â heriau cadwraeth sy’n cael eu hanwybyddu a’u tangyllido ar gyfer bywyd gwyllt ac ecosystemau sydd dan fygythiad byd-eang.
Dysgwch fwyCyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd