Mae gan Nicola Pulman gefndir ym maes rheoli cefn gwlad ar gyfer cadwraeth a gweithio gyda phobl leol. Ym 1998, gwirfoddolodd dros Wasanaethau Gwirfoddol Dramor yn Ghana, ble y cydlynodd sefydliad anllywodraethol sy’n ymwneud â chadwraeth oedd wedi ymroi i warchod ardaloedd o goedwig gymunedol sydd mewn perygl o’r enw Sacrid Groves. Yn Nigeria, gweithiodd Nicola gyda chymunedau coedwig i helpu i gefnogi coedwigoedd glaw a phrimatiaid, a gweithiodd ar brosiectau bywoliaeth a datblygu cymunedol cynaliadwy. Yn y Deyrnas Unedig, mae Nicola wedi gweithio yn y sector elusennol ac i Brifysgol Caerdydd, lle bu’n rheoli partneriaeth ryngwladol.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
