Mae Catrin yn ymuno â’r tîm Allgymorth Addysg, a bydd yn ymweld ag ysgolion ar draws De-ddwyrain Cymru. Mae gan Catrin dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg amgylcheddol mewn ysgolion a gyda gweithgarwch celfyddydol yn y gymuned. Mae hi’n angerddol am ddod o hyd i ffyrdd creadigol o siarad ynghylch ein cyfrifoldeb i’r blaned a rhoi’r adnoddau i bobl greu newid, trwy gyfrwng gemau, celf a straeon. Mae Catrin i’w gweld yn aml ym myd natur, yn gwneud crefftau traddodiadol neu’n astudio bioamrywiaeth leol cymoedd De Cymru. Mae Catrin yn falch o fod yn siarad Cymraeg, ac mae hi’n cael ysbrydoliaeth gan Dewi Sant, a ddywedodd ‘Gwnewch y Pethau Bychain’, ac yn cymryd camau ystyrlon dros greu byd gwell mewn tosturi tuag at bob bywyd ar y ddaear.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?