Mae gan Scout gefndir cryf mewn cynaliadwyedd, ecoleg, cadwraeth ac ymchwil. Mae ganddi brofiad eang ar draws y sector amgylcheddol, gan gynnwys cynnal ymchwil polisi amgylcheddol a darparu gwaith rheoli cynefinoedd ac arolygu rhywogaethau yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Scout yn angerddol am y berthynas rhwng pobl a natur, ac am ddatblygu dulliau teg a chyfiawn o weithredu ar yr hinsawdd sy’n diogelu cymunedau gartref ac ar draws y byd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod camau hinsawdd yn deg, yn gynhwysol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Yn ei rôl ar dîm polisi Maint Cymru, bydd Scout yn dod â’i chefndir ymchwil a’i phrofiad yn y sectorau cyhoeddus a’r trydydd sector, tra’n parhau i weithio ym maes ymchwil ac i wirfoddoli gyda’i grwpiau hinsawdd a natur lleol.“Rwy’n cael fy ysbrydoli’n barhaus gan y camau mae ein cenedl fach yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i gymryd cyfrifoldeb am ein hôl troed dramor. Rwy’n hynod gyffrous i weithio gyda sefydliad sy’n harneisio ac yn cefnogi’r weledigaeth hon i hyrwyddo cyfiawnder amgylcheddol a chefnogi hawliau brodorol drwy’r camau beunyddiol a gymerwn gartref.”