Ymunodd Nicky â rhaglen Addysg ac Ymgysylltu ag Ieuenctid Maint Cymru yn 2020. Mae ganddi 10 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector elusennol, yn y corff anllywodraethol rhyngwladol WWF, ar bolisi newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae Nichola wedi gweithio gyda chorfforaethau a gwleidyddion i helpu i eirioli dros newid ar draws y DU ac yma yng Nghymru. Ar ôl cymryd seibiant gyrfa i fagu ei theulu ei hun, mae Nicky wedi gwylio gyda chyffro, wrth i egni a phenderfyniad pobl ifanc i ymladd dros ein byd ffrwydro ac yn sgil hynny, cyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr. Mae Nicky yn teimlo’n angerddol am bŵer ieuenctid a rôl coedwigoedd mewn datrys ein hargyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae hi’n awyddus i ddefnyddio ei hegni i ddod â harddwch a rhyfeddod ein planed i’r ystafell ddosbarth yn y ffyrdd mwyaf creadigol posibl.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
