Mae Cerys yn rhan o Dîm Allgymorth Addysg Maint Cymru gan ganolbwyntio ar Ddwyrain De Cymru, o Gastell-nedd i Ben-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Mae ganddi gefndir mewn addysg awyr agored a gwyddoniaeth uwchradd. Gan fod ganddi ddiddordeb parhaol mewn cadwraeth coedwigoedd glaw, mae Cerys wedi cymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth mewn sawl coedwig drofannol ar draws y byd. Mae’n arbennig o frwd dros amddiffyn coedwigoedd glaw yng Nghanolbarth a De America – cartref yr anifail araf iawn, y sloth, y bu’n gweithio gyda nhw yn Costa Rica. Mae hi wrth ei bodd yn rhannu straeon am y creadur unigryw hwn yn ystod ei sesiynau!
Mae Cerys yn angerddol dros ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ofalu am ein planed, deall newid hinsawdd a chymryd camau i’w wrthsefyll.
