Cyn etholiadau Senedd 2021, mae Maint Cymru wedi bod yn ymgyrchu gyda WWF Cymru ac RSPB Cymru i alw ar Gymru i ddod yn Cenedl Dim Datgoedwigo gyntaf y byd.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydyn ni wedi siarad â swyddogion o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol ac wedi rhyddhau ein maniffesto ein hunain gan ofyn gwahanol gwestiynau i lunwyr polisi ynghylch datgoedwigo tramor.
Mae’r blog hwn yn amlinellu ein dadansoddiad o faniffesto pob prif blaid a’r hyn y maent yn ei ddweud mewn perthynas â’n maniffesto ni. Gweler tabl PDF o’r canlyniadau yma hefyd.
Her 1: Systemau bwyd cynaliadwy
Dim ond llond llaw o nwyddau sy’n cael eu mewnforio i Gymru sy’n deillio o ddatgoedwigo tramor. Mae angen i ni ddatblygu strategaeth system fwyd sy’n annog ac yn gwobrwyo cadwyni cyflenwi lleol ‘O’r Pridd i’r Plât’ ac sy’n rhoi blaenoriaeth yn unig i nwyddau cynaliadwy o dramor sy’n cynorthwyo bywoliaethau gartref a thramor.
Llafur:
- Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol i Gymru i annog cyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru.
Plaid Cymru:
- Cyflwyno targedau di-ddatgoedwigo ym mholisi caffael Cymru fel rhan o’n trawsnewid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.
- Dylai caffael bwyd yn gyhoeddus roi blaenoriaeth yn ddieithriad i fwyd a gynhyrchir yng Nghymru. Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol – er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cyngor – helpu i greu marchnadoedd ar gyfer busnesau bwyd lleol.
- Datblygu strategaeth system fwyd i Gymru drwy sefydlu Comisiwn System Fwyd traws-sector, â’r dasg o ddatblygu map ffordd tuag at system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Creu Comisiwn System Fwyd traws-sector i ddatblygu strategaeth fwyd holistig i Gymru.
- Hyrwyddo ‘Made in Wales’ ar gynhyrchion bwyd o Gymru, gan weithio gyda chynhyrchwyr i greu cynhyrchion o ansawdd gwych a fydd yn apelio at farchnad ehangach.
Ceidwadwyr:
- Defnyddio ymadawiad y DU o’r UE i annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i ‘Brynu nwyddau Cymreig’ a fydd yn cefnogi ffermwyr ac yn lleihau costau amgylcheddol.
- Cyflwyno ciniawau ysgol iach sy’n dod o ffynonellau lleol.
Democratiaid Rhyddfrydol:
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn ymrwymo i gytundebau masnach yn unig lle mae nwyddau sy’n cael eu mewnforio’n cwrdd â safonau amgylcheddol, safonau ansawdd bwyd a safonau lles anifeiliaid o’r radd flaenaf fel a ddisgwylir oddi wrth gynhyrchwyr yn y DU.
Y Blaid Werdd:
- Dod â Mesur Amaethyddiaeth i’r Senedd sydd wedi’i ddatblygu gyda ffermwyr, cymunedau a symudiadau bwyd yng Nghymru. Byddai’r bil hwn yn nodi map ffordd ar gyfer MWY o fwyd a ffermio.
- Mwy o fwyd i gael ei gynhyrchu yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru.
- Mwy o gadwyni cyflenwi bwyd lleol.
UKIP:
- Ymdrechu tuag at fwy o hunangynhaliaeth. Ar gyfartaledd, dim ond mewn 65% o gynhyrchion amaethyddol y mae’r DU yn hunangynhaliol.
- Bydd UKIP yn gweithredu “Ymgyrch Prynu Nwyddau Cymru”, sy’n herio defnyddwyr i brynu cynnyrch lleol.
Ni chanfuom unrhyw addewidion perthnasol i’r her hon ym maniffestos y blaid Reform nac ym maniffesto’r blaid Abolish the Welsh Assembly.
Her 2: Caffael moesegol
Cyflwyno targedau di-ddatgoedwigo ym mholisi caffael Cymru fel rhan o’n trawsnewid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.
Plaid Cymru:
- Cyflwyno targedau di-ddatgoedwigo ym mholisi caffael Cymru fel rhan o’n trawsnewid i ddefnyddio nwyddau cynaliadwy sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.
- Dylai caffael bwyd yn gyhoeddus roi blaenoriaeth yn ddieithriad i fwyd a gynhyrchir yng Nghymru. Gall caffael cyhoeddus lleol a rhanbarthol – er enghraifft mewn ysgolion, ysbytai a swyddfeydd cyngor – helpu i greu marchnadoedd ar gyfer busnesau bwyd lleol. Parhau i weithio gyda phrosiect Maint Cymru a chyflwyno targedau caffael di-ddatgoedwigo.
Ceidwadwyr
- Cyflwyno ciniawau ysgol iach sy’n dod o ffynonellau lleol.
Ni chanfuom unrhyw addewidion perthnasol i’r her hon ym maniffestos y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, UKIP, Reform na’r blaid Abolish the Welsh Assembly.
Her 3: Ffermio a natur
Cyflwyno arferion ffermio cynaliadwy nad ydyn nhw’n cyfrannu at ddatgoedwigo dramor. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r gorau i ddibyniaeth ar borthiant anifeiliaid soi wedi’i fewnforio sy’n tarddu o ardaloedd lle mae risg i goedwigoedd, a mabwysiadu dulliau ffermio sy’n gyfeillgar i natur a’r hinsawdd fel ffermio organig, agro-ecoleg a choedwigaeth amaethyddol
Llafur:
- Creu system newydd o gymorth fferm a fydd yn macsimeiddio pŵer amddiffynnol natur trwy ffermio, gan ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchu bwyd yng Nghymru ddigwydd o fewn terfynau amgylcheddol. Dim ond ar gyfer cynhyrchu bwyd sy’n sicrhau canlyniadau amgylcheddol ychwanegol y bydd ffermwyr yn derbyn cymhorthdal cyhoeddus.
Plaid Cymru:
- Gweithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir, fel rhan o’u rôl amaeth-amgylchedd, i ymestyn gwrychoedd, lleiniau cysgodi, cynefinoedd ochr nentydd ac ymyl cae.
- Cyflwyno Mesur Amaethyddiaeth Gymreig a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar nwyddau cyhoeddus fel datgarboneiddio, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwell bioamrywiaeth.
- Cyflwyno taliad cymorth sylfaenol i gynnig mwy o sefydlogrwydd economaidd i’r diwydiant. Defnyddir y gefnogaeth hon i annog y safonau uchaf o ran iechyd y cyhoedd ac iechyd a lles anifeiliaid, ac i hwyluso mwy o symud tuag at fwy o ffermio carbon isel affermio sy’n fuddiol iawn i natur.
- Byddwn hefyd yn defnyddio buddsoddiad ehangach i gefnogi’r newid i fathau mwy cynaliadwy ac amrywiol o ddefnydd tir, gan gynnwys ffermio organig, adfer amaethyddiaeth, amaeth-goedwigaeth a ffermio cymysg.
- Ceisio cynyddu lefel ffermio organig yng Nghymru a thyfu’r sector garddwriaeth yn sylweddol.
Ceidwadwyr
- Cyflwyno Mesur Amaethyddol i Gymru sy’n nodi sut y bydd ffermwyr a rheolwyr tir yn cael eu cefnogi gydag arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus, tra’n helpu’r sector i fuddsoddi mewn technoleg newydd, dod yn fwy cynhyrchiol a derbyn pris tecach am eu cynnyrch.
- Defnyddio ymadawiad y DU â’r UE i annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i ‘Brynu cynnyrch Cymreig’ i gefnogi ffermwyr a lleihau costau amgylcheddol.
Democratiaid Rhyddfrydol:
- Sicrhau bod y Cynllun Taliadau Sylfaenol yn cael ei ddisodli gan system sy’n seiliedig ar arian cyhoeddus am nwyddau cyhoeddus, gan gynnwys: rheoli tir yn gynaliadwy er budd bioamrywiaeth ac ar gyfer gwella ansawdd dŵr a lefelau llygredd.
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn ymrwymo’n unig i gytundebau masnach lle mae nwyddau sy’n cael eu mewnforio’n cwrdd â’r safonau amgylcheddol, safonau ansawdd bwyd a safonau lles anifeiliaid uchel fel a ddisgwylir gan fwyd a gynhyrchir gartref.
Y Blaid Werdd:
- Cyflwyno Bargen Newydd Werdd ar gyfer bwyd a ffermio, wedi ei dylunio gan gymunedau ffermio a phobl Cymru, i sicrhau trawsnewid dros gyfnod o 10 mlynedd i gynhyrchu bwyd agro-ecolegol ac adfer natur, gan helpu ffermwyr i weithio gyda natur.
- Dod â Mesur Amaethyddiaeth i’r Senedd sydd wedi’i ddatblygu gyda ffermwyr, cymunedau a symudiadau bwyd yng Nghymru. Byddai’r mesur hwn yn nodi map ffordd ar gyfer MWY o fwyd a ffermio; mwy o fwyd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru.
Abolish Welsh Assembly Party
- Rhaid i ni gefnogi ffermio yng Nghymru, nid ei dagu gan reoliadau e.e. Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan. Bydd Abolish yn trin ffermwyr yn deg, trwy sicrhau chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr.
- Ni ddylai Cymru gael ei dethol fel labordy ar gyfer dad-ddofi tir. Yn hytrach byddem yn rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo ffermio tir uchel traddodiadol Cymreig.
Ni chanfuom unrhyw addewidion perthnasol i’r her hon ym maniffestos UKIP na Reform.
Her 4: Cynorthwyo arferion busnes moesegol
Sicrhau bod Llywodraeth Cymru, sy’n ymroi i gryfhau perthynas â busnes a sbarduno twf cynhwysol ac ymddygiad busnes cyfrifol, yn cael ei gryfhau fel bod llofnodwyr y contract yn ymrwymo i ddileu datgoedwigo.
Llafur:
- Cryfhau ein Contract Economaidd fel bod twf cynhwysol, gwaith teg, datgarboneiddio a gwell iechyd meddwl yn y gwaith wrth wraidd popeth a wnawn.
Plaid Cymru:
- Gwneud Cymru’n genedl heb ddatgoedwigo trwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddeddfu ar gyfer rhoi’r gorau i fewnforio nwyddau sydd wedi achosi datgoedwigo.
Ni chanfuom unrhyw addewidion perthnasol i’r her hon ym maniffestos y Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol, Y Blaid Werdd, UKIP, Reform, nac Abolish the Welsh Assembly
Her 5: Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd
Llafur:
- Cynnal y polisi o wrthwynebu echdynnu tanwydd ffosil yng Nghymru, ar y tir ac yn y môr, gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael.
- Ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol o dros 100MW erbyn 2026, gan weithio tuag at y targed o 1GW yn y sector cyhoeddus a chapasiti ynni adnewyddadwy cymunedol erbyn 2030.
Plaid Cymru:
- Sicrhau bod holl gyllidebau adrannol y llywodraeth yn cydweddu ag adfer natur a hinsawdd. Adolygu’r gyllideb gyfan i sicrhau bod yr adnodd a ddyrennir i ddatgarboneiddio ac adfer natur yn cyd-fynd â’r angen dybryd hwn, ac yn adlewyrchu uchelgais y llywodraeth.
- Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol leihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn eu hardal trwy bennu cyllidebau GHC lleol.
- Diwygio llwybr lleihau allyriadau Cymru, gan osod targed i gwrdd â holl ofynion ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 a gosod targed i Gymru gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2035.
Ceidwadwyr:
- Creu 15,000 o swyddi gwyrdd a gwneud Cymru’n brifddinas ynni gwyrdd y byd.
- Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd trwy sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y targed allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
- Creu Swyddfa Annibynnol Diogelu’r Amgylchedd a Newid Hinsawdd i ddwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu’r amgylchedd.
- Gosod targedau o allyriadau carbon sero-net erbyn 2050 ac i bob cartref newydd fod yn ddi-garbon erbyn 2026.
Democratiaid Rhyddfrydol:
- Creu pecyn o fuddsoddiad o £1bn y flwyddyn i ymladd yr argyfwng hinsawdd, creu swyddi newydd a sefydlogrwydd ar gyfer cadwyni cyflenwi a busnesau, a buddsoddi mewn technoleg newydd.
- Gwneud Caergybi’n ganolbwynt rhanbarthol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a hydrogen, gan greu swyddi a chyfleoedd newydd, hirdymor i fusnesau lleol.
Y Blaid Werdd:
- Hyrwyddo treth garbon i helpu i leihau allyriadau carbon Cymru i sero-net erbyn 2030. Gosod pris sy’n codi’n gyson ar bob ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan gynnwys allyriadau amaethyddol a’r rhai sydd mewn mewnforion. Refeniw i fynd i drigolion a thuag at wyrddu’r economi.
- Cyflwyno gweledigaeth Werdd i gyflenwi net-sero erbyn 2030, gan ddisodli tanwydd ffosil gan ynni adnewyddadwy o’r tir a’r môr ynghyd ag uwchraddio’r grid trydan yn ôl yr angen.
UKIP:
- Dileu’r Ddeddf Newid Hinsawdd (2008), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU gyflawni cyfraddau datgarboneiddio blynyddol o fwy na 5% – ffigur nad yw unrhyw wlad arall yn y byd erioed wedi, neu fyth yn debygol o’i wireddu.
- Tynnu’r DU allan o Gytundeb Hinsawdd Paris (2016) ac unrhyw gynlluniau masnachu carbon cysylltiedig. Mae allyriadau CO2 Cymru yn cyfrif am 0.1% o allyriadau CO2 byd-eang a’r DU prin 1%.
Reform:
- Cefnogi a buddsoddi mewn ynni llanw i wneud Cymru’n arweinydd y byd yn y dechnoleg hon.
Ni chanfuom unrhyw bolisïau perthnasol i’r her hon ym maniffesto Abolish the Welsh Assembly.
Her 6: Addysg Hinsawdd
Gweithio gyda phartneriaid anhraddodiadol fel cyrff anllywodraethol i gryfhau ymhellach yr addysgu am y newid yn yr hinsawdd, natur a datgoedwigo o fewn y cwricwlwm newydd a chefnogi addysgwyr wrth iddynt fynd ati i gyflawni’r nod hwn.
Ni chanfuom unrhyw bolisïau perthnasol i’r her hon ym maniffestos unrhyw un o’r pleidiau
Her 7: Amddiffyn gwledydd a chymunedau bregus
Sicrhau bod gwledydd a chymunedau bregus sy’n dioddef effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, colli natur a datgoedwigo yn cael eu cefnogi i addasu a ffynnu fel rhan o uchelgais Cymru i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar raddfa byd-eang trwy’r rhaglen Cymru ac Affrica.
Llafur:
- Drwy ein rhaglen ‘Cymru ac Affrica’, rydyn ni wedi plannu mwy na 15 miliwn o goed yn Uganda gan sicrhau bywoliaeth, amddiffyn cymunedau, a helpu’r amgylchedd.
Plaid Cymru:
- Parhau i weithio gyda phrosiect Maint Cymru, Menter Tyfu Coed Mount Elgon a phartneriaid eraill yn Uganda.
- Rhoi cefnogaeth i genhedloedd sy’n gynhyrchwyr i sicrhau nad yw cadwyni cyflenwi’n cyfrannu at ddatgoedwigo a’u bod yn gynaliadwy, yn gynhwysol ac yn deg i ffermwyr, cymunedau coedwigoedd a phobl frodorol.
- Byddwn yn chwilio am ffyrdd o ehangu mentrau fel Coffee 2020 sy’n prynu coffi oddi wrth ffermwyr sy’n ymgyfrannu ym mhrosiect Mbale Trees, a Siopa Teg Fair Do’s sydd hefyd yn mewnforio coffi Masnach Deg ac Organig o Uganda.
Ni chanfuom unrhyw bolisïau perthnasol i’r her hon ym maniffesto y Ceidwadwyr, y Blaid Werdd. UKIP, Reform nac Abolish the Welsh Assembly.
Her 8: Masnach ryngwladol
Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd cytundebau masnach newydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel yn arbennig mewn datgoedwigo, ynghyd â mesurau gorfodi llym.
Plaid Cymru:
- Gwneud Cymru’n genedl ddi-ddatgoedwigo trwy weithio gyda Llywodraeth y DU i ddeddfu i roi diwedd ar fewnforio nwyddau sydd wedi achosi datgoedwigo.
Democratiaid Rhyddfrydol
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn ymrwymo’n unig i gytundebau masnach lle mae nwyddau sy’n cael eu mewnforio’n cwrdd â’r safonau amgylcheddol, safonau ansawdd bwyd a safonau lles anifeiliaid o’r radd flaenaf fel a ddisgwylir gan fwyd a gynhyrchir gartref.
Ni chanfuom unrhyw bolisïau perthnasol i’r her hon ym maniffesto Llafur, y Ceidwadwyr, y Blaid Werdd, UKIP, Reform nac Abolish the Welsh Assembly.