Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Bydd y swyddog allgymorth addysg yn gyfrifol am gyflwyno ein rhaglen addysg gyffrous a phoblogaidd ar newid yn yr hinsawdd mewn ysgolion ar draws Cymru. Byddant yn cynllunio ac yn cyflwyno gweithdai hwyliog ac ysbrydoledig am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol i ddisgyblion o bob oedran.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ymarferydd brwdfrydig ac ymroddedig, sydd â phrofiad o weithio o fewn y system addysg yng Nghymru. Bydd ganddynt ddiddordeb ym mhwysigrwydd coedwigoedd trofannol a newid yn yr hinsawdd, a byddant yn barod i gymryd rhan mewn hyfforddiant pellach ar y pynciau hyn.
Cyflog: £27,900 gross pro rata (£22,330 cyfwerth â rhan-amser), ynghyd â threuliau, costau teithio a help i weithio o gartref. Mae Maint Cymru yn gyflogwr Cyflog Byw.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 8fed Ionawr 2024 9am.
Swyddog Allgymorth Addysg (De Ddwyrain Cymru)Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw’r corff sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer yr elusen, ac mae pob ymddiriedolwr yn dod yn gyfarwyddwyr anweithredol cwmni. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am osod strategaeth gyffredinol, ac am sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni gan Gyfarwyddwr Maint Cymru, Dirprwy Gyfarwyddwr a’r tîm ehangach o 16. Mae’r Bwrdd yn cynnwys pobl sy’n dod â’r ystod o sgiliau proffesiynol a phrofiad personol a chyflogaeth sydd eu hangen i sicrhau bod yr elusen yn cael ei llywodraethu’n dda.
Tâl: Gwirfoddol, gyda threuliau rhesymol yn cael eu talu
Ymrwymiad amser: Un diwrnod y mis (ar gyfartaledd)
Tymor arferol y swydd: 3 blynedd, y gellir ei adnewyddu am dymor arall
Dyddiad cau: 16 Ionawr 2024
YmddiriedolwrCyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd