Mae partneriaeth newydd rhwng yr elusen Maint Cymru, a’r rhostwyr coffi annibynnol o Gaerdydd, Hard Lines, yn cyflwyno coffi newydd i’r farchnad, sy’n codi arian ar gyfer Cenedl y Wampís – Cenedl Frodorol ym Mheriw.
Mae’r Wampís yn genedl Frodorol, annibynnol, sydd wedi galw’r Amazon ym Mheriw yn gartref iddynt am dros fil o flynyddoedd. Mae eu coedwigoedd yn hanfodol i’r mater byd-eang o newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae’n dod yn fwy anodd i’r Wampís amddiffyn eu tiriogaeth rhag datgoedwigo, sy’n cael ei sbarduno gan fwyngloddio anghyfreithlon, torri coed ac echdynnu olew.
Meddai Anna Harris, Cydlynydd Prosiectau Coedwigoedd Maint Cymru, “Rydym yn gyffrous dros ben o gael y cyfle i weithio gyda Hard Lines, sydd wedi ymrwymo’n gryf i gynaliadwyedd. Trwy gefnogi Cenedl y Wampís, gall pob un ohonom helpu i sicrhau dyfodol gyda choedwigoedd. Pobl Frodorol yw gwarcheidwaid gorau ein coedwigoedd, ac maen nhw’n hanfodol i fywyd ar y ddaear”.
Mae Hard Lines yn defnyddio coffi sydd yn cael ei dyfu ar lethrau bryniau Velo de Novia ym Mheriw, sy’n elwa o amrywiaeth o ficrohinsoddau o ganlyniad i uchderau amrywiol y rhanbarth. Mae’r gwarchodfeydd naturiol o amgylch y ffermydd hyn yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd unigryw. Mae’n goffi wedi’i brosesu a’i olchi, gyda blasau mwyar duon, cnau cyll a siocled.
Mae llawer o goffi tymhorol Hard Lines yn cael eu prynu gan fewnforwyr cynaliadwy o ffermydd coffi ym Mheriw. Maent yn gwerthfawrogi cynaliadwyedd, ansawdd, cydweithredu ac, yn bwysicaf oll, pobl a chymuned, sy’n golygu y gallai fod yn rhan o’r ateb i greu safonau ansawdd bywyd gwell, er enghraifft, trwy dalu cyfraddau uwch ar gyfer ffa coffi, cyfrannu at yr economi leol, a diogelu bywoliaethau a safonau byw gwell.
Matt Jones, Cyd-gyfarwyddwr Hard Lines – Mae wedi bod yn anhygoel gweld gwaith caled y tîm i ddod â’r prosiect hwn yn fyw. Gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth i’r Wampís, ac yn taflu goleuni ar eu gwaith anhygoel yn y goedwig.
Bydd gwerthiannau o’r coffi, ‘For the Forests’, yn cyfrannu at ymgyrch y Wampís i amddiffyn eu pobl a’u tiriogaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gefnogi Cenedl y Wampís ac i gael eich bag o goffi For the Forests, ewch i wefan Hard Lines, neu neu galwch i mewn i’r caffi ar Stryd Dwyrain Cowbridge, Caerdydd.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth goffi, Maint Cymru neu am Genedl y Wampís, cysylltwch â Kadun Rees, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Digidol Maint Cymru, drwy e-bostio [email protected]