Mae partner Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), sef partner Maint Cymru, yn darparu sgiliau i fenywod ym Mbale, Uganda ar sut i wneud padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio. Mae’r ymgyrch hon yn dda i’r amgylchedd, yn gwella hylendid personol, ac yn gwasanaethu fel menter fusnes i wella incwm teuluoedd – ac yn sgil hynny, yn cynyddu cadernid i wrthsefyll ac ymaddasu i effeithiau economaidd a chymdeithasol newid hinsawdd. Mae hyn yn rhan o’r prosiect Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywedd er Budd Cadernid ac Ymaddasu i’r Hinsawdd yn ardal Butta, Rhanbarth Manafwa, Mbale ac mae’n cael ei gefnogi gan Maint Cymru, Llywodraeth Cymru a CGGC Cymru.
Yn ôl arolwg sylfaenol a gafodd ei gynnal ar ddechrau’r prosiect, cafodd materion hylendid mislif eu nodi fel un o’r prif resymau pam mae merched yn gadael addysg, Mae hylendid mislif felly yn arbennig o bwysig i ferched a menywod ifanc yn y gymuned. Hebddo, maent yn colli llawer o’r ysgol ac maen nhw’n gallu dod yn fregus iawn, sydd yn gallu arwain at broblemau cymdeithasol fel trais ar sail rhywedd, plant yn mynd yn feichiog yn eu harddegau ac yn priodi’n gynnar, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a dim llawer o fynediad i addysg a gofal iechyd. Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn cadw menywod ifanc yn rymus, a gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus.
Does gan nifer fawr o famau ifanc, merched a menywod yn Uganda ddim llawer o wybodaeth am eu cyrff, yn enwedig mewn perthynas â’r mislif ac iechyd atgenehdlol a rhywiol. Yn y rhan fwyaf o gymunedau, does dim llawer o bobl yn sôn am y mislif, ac mae’n cael ei drin fel pwnc tabŵ, gyda gwaedu mislifol yn cael ei weld fel rhywbeth budr a niweidiol, sy’n cyfyngu ar fynediad menywod a merched ifanc i wybodaeth berthnasol a phwysig am eu cyrff. Mae’r fenter hon yn creu lle diogel i sgwrsio’n agored ac i gael mynediad at wybodaeth gywir.
Ar ôl dadansoddi’r mater, daeth METGE o hyd i fenter i geisio cael merched i fynd i’r ysgol. Gwnaethpwyd hyn trwy rannu gwybodaeth am hylendid mislif gyda mamau ifanc a merched, a’u hyfforddi nhw i wneud padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio a’u golchi. Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi tri diwrnod ymarferol ar gyfer 30 o fenywod a merched, ac fe wnaeth pob hyfforddai dri phad mislif. Hyfforddwyd y menywod a’r merched hefyd fel “Hyfforddwyr Hyfforddwyr”, ac maen nhw wedi mynd ymlaen i hyfforddi 30 o aelodau eraill o’r grŵp. Maen nhw hefyd wedi dechrau gwneud padiau fel busnes, ac mae hyn wedi helpu i wella eu bywydau gartref.
Bydd METGE yn parhau i gydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned leol sy’n cefnogi menywod a merched fel y llywodraeth leol a chymdeithasau sifil, gan fod yr hyfforddiant sydd wedi cael ei roi hyd yn hyn wedi darparu ateb cyflym i’r heriau ynghylch hylendid mislif ac wedi creu effaith ehangach yn y gymuned.
Rhannu profiadau’r prosiect
Meddai Joyce Kimono, swyddog cynhwysiant cymdeithasol a rhywedd, METGE:
“Un o nodau’r prosiect hwn oedd cymell menywod i gymryd rhan mewn mentrau busnes a chynhyrchu incwm. Ar ôl yr hyfforddiant hwn, maen nhw’n mynd i weithio fel Hyfforddwyr Hyfforddwyr, a helpu menywod eraill yn y gymuned i ddechrau gwneud padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio fel cyfle busnes. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen.”
Meddai Mukitte Anna, a gymerodd ran:
This training is going to help many women like me start small businesses.” Mae’r padiau y gellir eu hailddefnyddio yn ddrud i’w gwneud a does dim angen deunyddiau costus i’w gwneud. Rydw i wedi dysgu rhywbeth sydd yn gallu fy helpu i ennill arian. Bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu llawer o ferched fel fi i ddechrau busnesau bach.
Meddai Nabisawa filly, Swyddog Datblygu Cymunedol, yn rhanbarth Butta:
“Rydyn ni’n hapus iawn. Mae hyn yn mynd i gael effaith fawr ar fenywod yma. Dyma beth oedd ar goll yn Butta. Bydd yn gwella bywydau merched ac yn eu helpu nhw i gario ‘mlaen i fynd i’r ysgol. Mae’n fendith.”