Mae Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r prosiect yn Butta, Ardal Manafwa.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae'r prosiect hwn yn gweithio ochr yn ochr â Rhaglen Coed Mbale, gydag aelodau o'r gymuned yn Nwyrain Uganda i sicrhau bod y rhaglen tyfu coed yn integreiddio ymagwedd gynhwysol o ran rhywedd.
Dydy cyfiawnder hinsawdd ddim yn gallu bodoli heb gyfiawnder rhywedd. Drwy integreiddio cydraddoldeb rhywedd, mae menywod yn cael eu grymuso i ddod yn actorion allweddol mewn perthynas â lliniaru ac ymaddasu i’r newid hinsawdd.
Mae’r prosiect yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned ym mhentref Lukuma, Ardal Manafwa yn Nwyrain Uganda, i sicrhau bod y rhaglen tyfu coed yn integreiddio ymagwedd rhywedd – gynhwysol. Bydd y prosiect hwn yn sicrhau hefyd bod menywod yn fwy presennol ac yn allweddol o ran gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ddyfodol eu cymunedau.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Maint Cymru, mewn partneriaeth â’n partner lleol, Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE), wedi sefydlu’r prosiect cydraddoldeb rhywedd newydd hwn fel rhan o Raglen Plannu Coed Mbale.
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar lwyddiant menter debyg a gynhaliwyd yn 2022 ym mhentref cyfagos Bumaena yn Ardal Mbale. Yn benodol, hyfforddi menywod i arwain a hyfforddi hyrwyddwyr rhywedd ar lefel gymunedol. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth o faterion rhywedd ymhlith dynion a menywod yn y gymuned.
Mae menywod a grwpiau eraill sydd yn cael eu hymyleiddio, fel pobl anabl a phobl ifanc pentref Lukuma yn derbyn hyfforddiant mewn rheoli tir yn gynaliadwy, amaeth-goedwigaeth, cadwraeth a phrif ffrydio rhywedd. Bydd cyfleoedd bywoliaeth sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn cael eu darparu hefyd. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i gynhyrchu incwm fel tyfu llysiau, cadw gwenyn ac adeiladu stofiau lorena ynni-effeithlon, ac i ddysgu sgiliau fel entrepreneuriaeth, marchnata a chadw llyfrau. At hynny, bydd cymdeithasau cynilion a benthyciadau pentref yn cael eu cryfhau ar lefel y pentref, a fydd yn darparu mwy o lythrennedd ariannol, gwytnwch a chyfleoedd i gynilo a buddsoddi.
Bydd y prosiect yn hyrwyddo mwy o undod hefyd rhwng Cymru ac Affrica a mwy o ymwybyddiaeth o effaith newid hinsawdd yn y De byd-eang a’r angen am gyfiawnder hinsawdd.
Yn Uganda, mae dosbarthu pŵer, adnoddau a chyfrifoldebau yn ffafrio dynion, ac wedi arwain at eithrio menywod a merched o feysydd gwleidyddol, economaidd ac economaidd-gymdeithasol. Mae’r anghydraddoldeb yn fwy amlwg mewn sefyllfaoedd lle mae adnoddau’n brin.
Mae menywod yn chwarae rhan hanfodol mewn amaethyddiaeth a rheoli adnoddau naturiol. Fodd bynnag, o gymharu â dynion, mae ganddynt fwy o gyfyngiadau o ran arian ac adnoddau oherwydd strwythurau cymdeithasol a normau diwylliannol, yn ogystal â llai o fynediad at wybodaeth, marchnadoedd a gwasanaethau eraill. Maen nhw hefyd yn wynebu heriau unigryw o ran addasu i’r newid hinsawdd. Oherwydd tlodi cyffredin, menywod sy’n ysgwyddo’r baich mwyaf yn y cymunedau. Mae eu dyletswyddau fel casglu dŵr a choed tân yn cael eu gwneud yn fwy anodd gan yr hinsawdd newidiol a chan ddatgoedwigo. Mae hyn yn cael effaith ar faeth teulu, gofal plant ac addysg.
Ar ben hynny, mae normau diwylliannol sy’n gysylltiedig â rhywedd yn cyfyngu ar allu menywod i ymateb i ddigwyddiadau hinsoddol a gwneud penderfyniadau cyflym mewn achosion o ddigwyddiadau hinsoddol, fel llifogydd a sychder. Er enghraifft, mae Afon Manafwa yn croesi trwy Blwyf Fuluma ac mae’n agored i lifogydd. Ar hyn o bryd, mae’n anodd i fenywod wneud penderfyniadau i leihau eu bregusrwydd i lifogydd drwy blannu coed er enghraifft, heb gael caniatâd dynion sy’n berchen ar y tir. Mae’r un peth yn wir am fabwysiadu technolegau newydd, lle mae menywod yn cael eu cyfyngu hefyd. Mae hyn yn llawer gwaeth i fenywod y mae gwŷr yn gweithio mewn trefi a chanolfannau trefol, yn hytrach nag ar ffermydd. Yn aml, nid oes gan fenywod y pŵer i wneud penderfyniadau ffermio amserol ac i argyhoeddi eu gwŷr i gytuno i dechnolegau newydd.
Nod y prosiect newydd hwn ydy mynd i’r afael â’r heriau hyn a gyda’n gilydd, mae Maint Cymru, METGE a phartneriaid gweithredu yn tyfu mwy na choed — ond yn adeiladu yn cymunedau grymus, gwydn a mwy cynhwysol.
Mae Menter Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r prosiect yn Butta, Ardal Manafwa.
Mae Rhaglen Plannu Coed Mbale yn derbyn cyllid gan Llywodraeth Cymru drwy raglen Cymru ac Affrica, sydd yn cael ei chefnogi gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Mae CGGC yn cefnogi cynllun grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd