Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae dosbarthiad annheg o bŵer, adnoddau a chyfrifoldebau ar draws y byd ac yn Uganda, wedi arwain at fenywod a merched yn cael eu heithrio rhannol neu llawn o feysydd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol-economaidd mewn cymdeithas.
Isod, byddwn yn archwilio’n fwy manwl rhai o’r ffyrdd y mae’r argyfwng hinsawdd yn mwyhau annhegwch rhwng y rhywiau, ac yn rhoi menywod a merched mewn mwy o berygl. Ond yn gyntaf, byddwn yn rhannu sut y cynhaliwyd asesiad ar sail rhyw cyfranogol yn Uganda, a nod y gweithgareddau pwrpasol a ddilynodd yw mynd i’r afael ar anghydbwysedd hwn rhwng y rhywiau.
Mae Maint Cymru wedi dylunio prosiect peilot blwyddyn o hyd gyda’i phartneriaid METGE (Mount Elgon Tree Growing Enterprise), ITF (International Tree Foundation) a MADLACC (Masaka District Landcare Chapter Leadership) a’r cymunedau maen nhw
wedi’u lleoli ynddynt. Y nod yw integreiddio rhywedd i weithgareddau a pholisi newid hinsawdd sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, a galluogi menywod gwledig i ddod yn gyfryngau pwysig ar gyfer newid.
Yn dilyn yr asesiad ar sail rhyw, arweiniodd darlun cliriach o’r heriau a’r cyfleoedd ynghylch cyfranogiad menywod at lwybr i gefnogi menywod. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant, rhwydweithio a mynediad at adnoddau fel cronfeydd hadau, gwrtaith organig, offer, cychod gwenyn i sefydlu mentrau sy’n gyfeillgar i natur. Mae’n hanfodol cydnabod nad yw’r genhadaeth tegwch rhwng y rhywiau yn faich i fenywod yn unig, ac nid felly y dylai fod. Oherwydd, roedd y prosiect yn cynnwys dynion mewn hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth i greu grŵp o bencampwyr rhywedd benywaidd a gwrywaidd.
Gallwch weld gweithgareddau ac effeithiau’r prosiect isod:
Hyfforddwyd unigolion i gynnal hyfforddiant tegwch rhwng y rhywiau. Hyfforddwyd 44 o ddynion a menywod i fod yn hyrwyddwyr rhywedd, i godi ymwybyddiaeth yn eu cymuned, herio rolau rhywedd, rhannu’r manteision o blannu a thyfu coed, triniaeth deg a pharch at bawb waeth beth fo’u statws. Er enghraifft, mae dynion wedi dechrau
sylweddoli y gall menywod gymryd rhan mewn gweithgareddau fel tyfu coed, ac y dylsent gael dweud eu dweud ynghylch y ffordd y mae’r tir yn cael ei reoli. Roedd y sgiliau a ddysgon nhw yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, a chydlynu gydag eraill, gan eu galluogi i rannu gwybodaeth o fewn eu cymunedau.
Yma, mae Deborah a’i mab Gideon yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’ i ddysgu wedi i Deborah yn dod yn bencampwr rhywedd.
Mae menywod yn aml yn cael trafferth cael mynediad at arian, ac mae natur o’r llaw i’r genau eu bywydau yn rhanbarthau’r prosiect yn golygu ei fod yn gallu bod yn anodd talu am ofal iechyd neu feddyginiaeth ac addysg – symiau mwy o arian. Mae cefnogi menywod i gasglu a sefydlu grwpiau cynilo gyda’i gilydd yn grymuso menywod, ac yn rhoi mwy o bŵer i’r arian maen nhw’n ei ennill. Diolch i’r prosiect, mae 19 o gymdeithasau cynilo wedi derbyn hyfforddiant ar lythrennedd a rheoli ariannol, cadw cofnodion, ac adennill benthyciadau.
Mae menywod yn aml yn cael eu hesgeuluso o rolau arwain a swyddi gwneud penderfyniadau, sy’n golygu bod eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu, a’u safbwynt ddim yn cael ei ystyried. Hyfforddodd y prosiect 40 menyw i wella eu sgiliau arwain a chodi hyder, i gyflawni rolau gwneud penderfyniadau yn y gymuned.
Fe aethon nhw ymlaen i hyfforddi 664 o fenywod eraill yn eu cymuned hefyd. Mewn trafodaethau grŵp ffocws, gwelwyd bod canfyddiadau menywod o arweinyddiaeth yn newid. Ar y dechrau, roedd rhai o’r menywod yn amau eu hunain, ond nawr diolch i’r hyfforddiant, fe ddywedon nhw eu bod nhw’n teimlo fel eu bod yn cael eu hannog ac yn gyfforddus yn eu swyddi.
Maen nhw nawr yn gweld y gallan nhw gyflawni swyddi arwain, gwneud penderfyniadau a siarad allan mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mae rhai ohonynt yn paratoi i sefyll ar gyfer swyddi arwain yn yr etholiadau nesaf, a phan fydd cyfleoedd yn
codi yn eu cymuned.
Gweithgareddau Cynhyrchu Incwm i Fenywod
Cefnogwyd dros 600 o fenywod i sefydlu cyfleoedd bywoliaeth sy’n wydn o ran hinsawdd, i greu incwm a gwella diogelwch bwyd:
“Rydyn ni fenywod wedi gallu cymryd rhan mewn cadw gwenyn
oherwydd rydyn ni’n gwybod beth yw manteision y gweithgaredd hwn. Rydym wedi gallu cynhyrchu mêl a chynhyrchion cadw gwenyn eraill, ac rydym yn eu gwerthu i ennill rhywfaint o arian”, Ms Victoria Namalikye o grŵp Masele Beekeepers yn Ardal Sironko – un o’r grwpiau sydd wedi elwa o hyfforddiant cadw gwenyn METGE.
Mae’r prosiect wedi meithrin dysgu a rhannu rhwng staff y prosiect ac aelodau cymunedol o ardal Mbale a Masaka hefyd, drwy ymweliadau cyfnewid rhwng cyfoedion. Er enghraifft, fe ddysgon nhw sut mae gweithredwyr gwelyau planhigfa benywaidd yn defnyddio technoleg i dracio nifer y coed sy’n cael eu plannu.
Mae cadw cofnodion a chipio data yn agwedd dda yn y prosiect. Fe welson ni fenyw yn defnyddio tabled i fynd i nodi data ar gyfer ffermwyr sydd wedi cymryd coed, ac mae’n ysbrydoliaeth i rymuso menywod i ddod yn gyfarwydd i ddefnyddio technoleg, meddai
Ms Nankya, ffermwr o Masaka.
Fe wnaeth yr ymweliadau greu trafodaethau am rôl menywod yn y gymuned hefyd, a sut i gefnogi pobl sy’n byw gydag anabledd yn well. Mae menywod yn gallu cadw gwenyn ac rydyn ni wedi gweld hyn ac felly, mae’n rhaid i ni wneud yr un peth. Mae’n rhaid i ni ddiddori ein hunain mewn gwneud cadw gwenyn fel busnes pan fyddwn ni’n mynd yn ôl i Masaka, esboniodd Christine Nankya, aelod cymunedol o Masaka.
Pam fod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar fenywod?
Nid yw’r argyfwng hinsawdd yn niwtral o ran rhywedd. Mae’n gwaethygu’r anghydraddoldeb presennol rhwng y rhywiau. Yn aml, menywod sydd fwyaf tebygol o fod yn gyfrifol am dyfu, casglu, cynllunio a bwydo teuluoedd a chasglu dŵr a choed tân. Yn aml, maen nhw’n dibynnu ar dir ac adnoddau naturiol ar gyfer bwyd ac incwm.
Pan mae patrymau tywydd yn newid ac yn mynd yn fwy eithafol, mae’n anodd iawn cefnogi eu teulu, mae’n anoddach tyfu bwyd, ac mae llai o fynediad at ddŵr diogel. Mae hyn yn rhoi pwysau ar fenywod a merched aelwyd a bydd y ferch hynaf mewn rhai achosion, o dan bwysau i adael yr ysgol a chefnogi gweithgareddau casglu incwm a darpariaeth fwyd y teulu.
Mae menywod yn cael eu cau allan o sefyllfaoedd gwneud penderfyniadau ar newid hinsawdd a rheoli natur, yn rhannol oherwydd normau cymdeithasol a diwylliannol gwahaniaethol, fel mynediad anghyfartal at dir, dŵr ac adnoddau eraill. Mae menywod
yn cael eu heithrio nid yn unig ar lefel teuluol a chymunedol, ond ar lefel genedlaethol a rhyngwladol o fewn y llywodraeth hefyd.
Wrth edrych ar hyn drwy lens groestoriadol, menywod brodorol ac o dras Affricanaidd, menywod gwledig a’r rhai o deuluoedd neu gymunedau incwm isel, menywod a merched ag anableddau, pobl LHDTIQ+, menywod ymfudol a’r menywod hynny mewn ardaloedd sy’n dueddol o drychineb, a fydd yn teimlo’r risgiau a’r effeithiau mwyaf dwys.
Pa gamau sydd angen cael eu cymryd?
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, codi ymwybyddiaeth ymhlith pob rhyw, a gweld mwy o fenywod mewn rolau arwain a gwneud penderfyniadau. Mae ymchwil yn dangos bod gan wledydd sydd â mwy o seneddwyr benywaidd bolisi hinsawdd mwy datblygedig, ac allyriadau cofnodedig is.
Mae menywod yn chwarae rhan hanfodol mewn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Gadewch i ni ddathlu a gwerthfawrogi eu gwybodaeth, eu harferion, a’u sgiliau i sicrhau goroesiad ein planed. Mae menywod a merched, fel Deborah yn Uganda neu ein partneriaid brodorol ym Mrasil, eisoes yn arwain eu datrysiadau eu hunain i’r heriau rhyng-gysylltiedig, sef newid hinsawdd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, ond mae’n rhaid iddynt gael mwy o gyfleoedd i gyrchu cyllid hinsawdd er mwyn cynyddu’r rhain.
Diolch i Hub Cymru Affrica a Llywodraeth Cymru am gefnogi ac ariannu’r gwaith hwn.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd