Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Enwebwch ni i gael £1,000!
Yn dilyn prosiect peilot diweddar a oedd yn ceisio mynd i’r afael â materion sy’n wynebu menywod yn Uganda, fe wnaethom ddod mewn cysylltiad â chymuned o fenywod o Bentref Bumaena ym Mbale, i glywed sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eu bywydau. Mae’r canlyniadau’n drawsnewidiol, ac rydym yn falch iawn o rannu eu tystiolaeth uniongyrchol isod.
Yn Uganda ac ar draws y byd, mae dosbarthiad anghyfartal o bŵer, adnoddau a chyfrifoldebau wedi arwain at eithrio menywod a merched o feysydd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru / Hub Cymru Africa, dyluniodd Maint Cymru brosiect peilot blwyddyn o hyd gyda phartneriaid: Mount Elgon Tree Growing Enterprise, International Tree Foundation, Masaka District Landcare Chapter Leadership a’r cymunedau cyfagos. Y nod oedd integreiddio rhywedd i weithgareddau a pholisi hinsawdd sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, a galluogi menywod gwledig i greu newid. Fe wnaeth asesiad rhywedd ddarparu llwybr clir i gefnogi menywod yn y cymunedau hyn.
I grynhoi, cynhaliodd y prosiect y mentrau canlynol:
Cafodd 44 o ddynion a menywod eu hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o faterion rhywedd yn eu cymuned, i herio rolau rhywedd, a rhannu’r manteision o dyfu coed. Nawr, mae menywod yn cael eu parchu mwy gan eu gwŷr, ac mae perthnasoedd yn fwy hapus.
“Cyn y prosiect rhywedd, doedd pobl ddim yn gwybod sut oedd coed yn cael eu defnyddio. Hyd yn oed pe baent yn gweld coed, doedden nhw ddim yn gwybod sut oedd coed yn cael eu defnyddio. Nawr eu bod nhw wedi cael eu hyfforddi, maen nhw’n gwybod bod coed yn ddefnyddiol iawn iddyn nhw i newid yr hinsawdd. Nid oedd menywod yn gallu gwneud penderfyniadau, dim ond dynion. Nawr, gall menywod wneud penderfyniadau ar bob lefel hefyd, o lefel teulu i lefel cymunedol, a gallwn wneud penderfyniadau hefyd. Doedd dynion ddim yn gwybod ei bod hi’n hanfodol gweithio fel teulu gyda’i gilydd, gyda phlant a’u gwragedd gyda’i gilydd. Roedd menywod yn mynd i’r ardd, yn golchi dillad, yn gwneud y coginio ar eu pen eu hunain, tra bod y dyn yn aros wrth y bwrdd i fwyta’r bwyd. Nawr mae dynion yn helpu yn y gerddi, ac yn helpu eu gwragedd a’u plant hefyd, felly rydyn ni’n newid rolau rhywedd. Mae plant yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau hefyd, gan mai nhw yw’r genhedlaeth ifanc i ddod. Mae plant yn cymryd rhan mewn plannu a gofalu am goed hefyd. Ar ôl ni, y bobl hŷn, bydd y bobl ifanc yn parhau gyda’r prosiect, yn plannu coed ac yn newid yr hinsawdd.”
“Nawr fel menyw, rwy’n hapus iawn oherwydd fy mod i’n gallu siarad. Cyn hynny, roeddwn i’n swil iawn, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud dim byd, ac roeddwn i’n meddwl na allwn i wneud unrhyw beth fel menyw. Ond nawr, rwy’n rhydd, ac rwy’n hapus iawn bod y prosiect rhywedd hwn wedi fy helpu i a fy nheulu a hyd yn oed y gymuned gyfan, oherwydd eu bod nhw nawr yn plannu coed ac yn gwybod beth i’w wneud fel menyw ac fel dynion hefyd.
Nawr, rydym yn byw mewn amgylchedd da, ac mae menywod a dynion wedi’u hyfforddi i wneud pethau da, a gofalu am eu plant.”
Cafodd 40 o fenywod eu hyfforddi ar arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a hyder. Aeth y menywod hyn ymlaen i hyfforddi 664 o fenywod ychwanegol. Nawr, mae rhai menywod eisiau sefyll ar gyfer etholiadau lleol, a chael eu lleisiau wedi’u clywed.
“Mae gennym yr hyder i siarad fel menyw. Cyn hynny, roeddem yn swil iawn. Doedden ni ddim yn gallu siarad yn gyhoeddus. Ond nawr, mae gennym yr hyder i siarad yn gyhoeddus, a gallwn fynd i’r afael â materion rhywedd, ysgariad, trais domestig a nawr, gallwn siarad go iawn.
Mae’r prosiect rhywedd wedi ein hyfforddi mewn hyfforddiant arweinyddiaeth ac i gael yr hyder i sefyll fel menyw ac eirioli a mynd i’r afael â materion mae menywod yn mynd drwyddynt. Hoffwn sefyll fel arweinydd dros fenywod, yn gyntaf ar lefel y pentref ac yna, ar lefel plwyf ac is-sirol. Ac efallai y caf gyfle i gyrraedd lefel ardal. A thrwy wneud hynny, rwy’n teimlo y gallaf eirioli dros fenywod a phlant, yn enwedig merched. Mae menywod a merched yn dioddef llawer. Mae’n rhaid i mi eiriol a’u hyfforddi i newid eu meddyliau. Mae gan bobl y meddylfryd anghywir na all menywod feddiannu tir, nad oes ganddynt fynediad i eiddo. Maen nhw’n cael eu dirmygu, eu hamharchu a’u cam-drin. Rydw i eisiau siarad am hynny, a gwneud i bobl ddeall bod dyn a menyw yr un fath, a bod rhaid iddyn nhw fwynhau a chael y rhyddid i wneud penderfyniadau.”
Mae’r mentrau hyn wedi creu nifer o ffrydiau incwm a llythrennedd ariannol gwell. Cefnogwyd menywod gyda chyllid sbarduno, hyfforddiant ac eitemau ac offer fel eginblanhigion, offer cadw gwenyn, pecynnau cychwynnol i greu gerddi cegin ac arferion rheoli tir cynaliadwy, fel y gallai’r menywod ddatblygu eu busnesau a’u mentrau eu hunain. Mae bywoliaeth menywod a diogelwch bwyd wedi gwella ymhellach diolch i hyfforddiant i greu Cymdeithasau Cynilo a Benthyciadau cryfach mewn Pentrefi. Derbyniodd 19 o gymdeithasau cynilo hyfforddiant mewn llythrennedd ariannol, rheolaeth, cadw cofnodion ac adfer benthyciadau.
“Rwyf wedi cael gwybodaeth, fel trwy’r grwpiau cynilo lle rydw i wedi cael y fuwch hon. Dwi’n gwybod sut i blannu llysiau, cloddio ffosydd, gwneud stofiau ac yn y blaen. Y peth wnaeth fy ngwneud fwyaf hapus yw’r fuwch, oherwydd breuddwydiais am ei chael. Roeddwn i’n meddwl sut y byddaf yn cael un? Ond diolch i Dduw. Ar 30 Mawrth, diolch i’r grwpiau cynilo, prynais fy muwch a nawr, rwy’n teimlo’n fwy hapus, rwy’n teimlo’n dda. Felly, ‘dwi wedi cyflawni llawer o bethau drwy’r grwpiau cynilo.
Mae buwch wedi fy helpu i wella fy ngobaith, ac y gallaf brynu rhywfaint o dir fel fi – menyw. Gydag amser, efallai mewn blwyddyn neu ddwy, gallaf ennill digon o arian i gael tir. Yn y gorffennol, roedd hi’n anodd i fenywod brynu tir ar eu pen eu hunain. Ond gan fy mod i wedi dysgu am fy hawliau erbyn hyn ac wedi cael gwybodaeth, rwy’n gwybod sut i gael arian a gwneud popeth. Dim y fuwch hon ydy fy unig ffynhonnell incwm, mae gen i fy musnes hefyd, yn gwneud sebon hylif. Cefais yr arian hwnnw gan y grwpiau cynilo. Rwy’n fenyw fusnes. Rwy’n fenyw bwerus.”
“Drwy’r prosiect rhywedd, cawsom gefnogaeth gan y gronfa sbarduno i gynyddu ein cynilion. Gallwn gael benthyciadau i fuddsoddi yn ein busnesau bach, a rhoi hwb i’n cynilion. Rydym wedi agor busnesau graddfa fach. Mae rhai wedi prynu gwartheg i gael llaeth, ac mae hyn yn hollol wych. Cawsom gyfle hefyd i gael ymweliad cyfnewid. Ym mis Ionawr / Chwefror, aethom i Kapchuebut i weld sut mae’r grŵp cynilo yn dod ymlaen, a sut roeddent yn defnyddio’r gronfa sbarduno. Cawsant gronfa ychydig yn ôl, a chlywsom straeon llwyddiant. Fe wnaethon ni ddysgu sut maen nhw’n defnyddio arferion rheoli tir cynaliadwy, a sut mae eu tir yn mynd yn fwy ffrwythlon oherwydd hyn. Fe wnaethom weithredu’r hyn a ddysgon ni hefyd, a chreu ffosydd yn ein gerddi i wneud y pridd yn ffrwythlon eto. Rydym yn plannu coed yn y gerddi, mae’r cysgod a’r dail yn ychwanegu maetholion i’r pridd. Cyn hynny, roedd ein pridd wedi mynd yn llwyr. Doedden ni ddim yn gallu cynaeafu.”
Canlyniad anhygoel o’r mentrau uchod yw y gall menywod nawr brynu tir yn eu henwau. Cyn y prosiect, doedd hyn ddim yn gyffredin, ac nid oedd ganddynt ganiatâd i wneud hyn ychwaith.
“Dwi hefyd wedi gallu prynu tir drwy’r grwpiau cynilo, ac rydyn ni’n parhau i ddysgu.”
“O’r blaen, doedden ni ddim yn gwybod sut i ddefnyddio ein cynilion ond nawr, rydyn ni wedi cael ein hyfforddi. Fi fel menyw, rydw i wedi prynu fy nhir rydw i nawr yn plannu coed arno, ar fy mhen fy hun. Fy nhir i yw e, ac mae fy ngŵr yn gwybod mai fi sy’n berchen arno. Rwy’n rhydd. Rwy’n hapus am hynny.”
Mae’r gymuned a’r meithrinfeydd coed wedi cael eu huwchraddio, ac mae tanciau cynaeafu dŵr glaw wedi’u gosod. Mae mynediad haws at ddŵr glân yn golygu bod y menywod yn wynebu llai o drais gartref. Cyn hynny, roedd yn rhaid iddynt gerdded 4 awr i gasglu dŵr ac yn aml, wynebu trais domestig gartref, oherwydd bod gwŷr yn cwyno eu bod wedi bod i ffwrdd am amser hir.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith hwn gyda’r gymuned. Diolch am ein caru. Rwy’n eich gwerthfawrogi chi am ddod â’r feithrinfa i ni. Diolch am ddod â dŵr i ni. O’r blaen, fel mamau, roeddem yn cerdded pellteroedd hir i gael dŵr gyda’n plant ar ein cefn. Doedd y dŵr hwnnw ddim mor lân, oherwydd roedden ni’n ei gadw mewn jerrican am ddau ddiwrnod.
Ond nawr, hyd yn oed os yw’n 7pm, rydym yn gallu cael dŵr. O’r blaen, pe bai ymwelydd yn dod ac nad oedd dŵr ar gael, roedd gen i gywilydd. Roedd yn bell. Fel mamau, ni fyddwn yn ffraeo yn ein cartref nawr, oherwydd dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd i ni gyrraedd y ffynnon.”
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd