Mae Prosiect Coed Mbale yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae datgoedwigo ym Mbale yn achosi tywydd anrhagweladwy a safonau byw sy'n dirywio. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, mae Rhaglen Plannu Coed Mbale yn plannu miliynau o goed bob blwyddyn, ac yn darparu cyfleoedd bywoliaeth gynaliadwy i'r gymuned.
Mae gan Uganda un o’r cyfraddau uchaf o golli coedwigoedd yn y byd. Rhwng 2001 a 2020, collodd y wlad 918,000 hectar o orchudd coed – gostyngiad o 12%. Ar sail tueddiadau cyfredol, mae perygl i’r wlad golli ei gorchudd coedwig cyfan erbyn 2040.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae Rhaglen Plannu Coed Mbale, sydd wedi’i lleoli yn rhanbarth Mount Elgon yn Nwyrain Uganda, yn cefnogi ffermwyr lleol i dyfu coed ac yn hyrwyddo bywoliaeth gynaliadwy.
Mae Mbale yn ardal fryniog fawr sydd wedi cael ei datgoedwigo’n drwm, yn bennaf oherwydd ehangu amaethyddiaeth; galw cynyddol am goed tanwydd a siarcol; a mesurau diogelu cyfreithiol gwan a gorfodi cyfreithiau diogelu coedwigoedd.
Mae’r tywydd y gellir ei ragweld unwaith wedi dod yn afreolaidd, ac mae’r priddoedd lleol sydd ddim yn sefydlog rhagor oherwydd bod llai o goed a glaw trwm, yn achosi llifogydd a thirlithriadau. Mae tirlithriadau wedi arwain at golli cartrefi, ysgolion, da byw ac weithiau, maen nhw’n costio bywydau.
Mae Rhaglen Plannu Coed Mbale yn cefnogi’r gymuned leol i blannu, meithrin a gwarchod 50 miliwn o goed erbyn 2030. Bydd y coed hyn yn:
Mae’r prosiect yn gweithio gyda dau partner gweithredu lleol i ddosbarthu dros 3 miliwn o goed sydd yn cael eu tyfu mewn meithrinfeydd bob blwyddyn i ffermwyr tyddyn lleol, cydweithfeydd amaethyddol, teuluoedd, eglwysi ac ysgolion, yn rhad ac am ddim.
Mae cydraddoldeb rhywiol a hyrwyddo menywod mewn arweinyddiaeth yn rhedeg ar draws yr holl weithgareddau o fewn y prosiect. Mae nifer y meithrinfeydd coed sydd yn cael eu rhedeg gan fenywod wedi cynyddu, ac mae’r rhaglen wedi cefnogi grwpiau menywod mewn gweithgareddau fel cadw gwenyn.
Mae’r rhaglen yn darparu cyflogaeth uniongyrchol i 116 o weithwyr. Mae’r rolau’n cynnwys gweithredwyr gwelyau meithrinfeydd, clercod data a hwyluswyr cymunedol. Mae’r rolau hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen, gan gynnwys cynyddu cyrhaeddiad pobl sy’n ymwybodol o’r eginblanhigion am ddim, ac sy’n eu derbyn.
Ers cael ei sefydlu, mae Rhaglen Plannu Coed Mbale wedi plannu bron i 25 miliwn o goed ac wedi cyflwyno manteision amgylcheddol a chymdeithasol pwysig i’r gymuned leol, a chyfrannu at ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae llawer o’r coed sydd yn cael eu plannu yn rhan o Gynllun Plant! Llywodraeth Cymru! sy’n dathlu genedigaeth pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru drwy blannu dwy goeden. Un mewn coetir newydd yng Nghymru, a’r llall ym Mbale.
Yr hyn sy’n allweddol i ddyluniad y rhaglen hon yw deall a mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n sbarduno datgoedwigo. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu siarcol sy’n achosi datgoedwigo ac sy’n cael ei waethygu gan ddiffyg cyfleoedd cyflogaeth.
Mae effeithiau a mentrau i fynd i’r afael â hyn yn cynnwys:
Mae’r gymuned wedi cael ei hyfforddi ar bynciau perthnasol, gan gynnwys sut i feithrin coed, arferion ffermio cynaliadwy, amaeth-goedwigaeth a ble i blannu coed i sicrhau’r canlyniad gorau. Mae’r rhain yn aml yn cael eu cynnal fel sesiynau rhannu gwybodaeth dan arweiniad cymheiriaid.
Mae’r brand coffi Jenipher’s Coffi yn ddatblygiad cyffrous sydd wedi cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Uganda.
Mae’r coffi organig hwn, sydd wedi’i ardystio’n goffi masnach deg, yn cael ei dyfu ym mryniau Mount Elgon gan gydweithfa ffermwr coffi o’r enw MEACCE. Mae MEACCE, sydd hefyd yn un o bedwar partner gweithredu Rhaglen Plannu Coed Mbale, yn helpu i ddosbarthu a thyfu planhigion coed sy’n darparu cysgod ac amddiffyniad rhag tywydd eithafol yn y pen draw, ac sy’n cynyddu ansawdd a chynnyrch coffi.
Mae partneriaid yng Nghymru ac Uganda wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â’r coffi blasus i Gymru, a gellir ei brynu ar-lein neu mewn siopau Masnach Deg ar draws y wlad.
Dysgwch fwy am ble mae coed yn cael eu tyfu ym Mbale ar y map isod a’r wefan newydd hon.
Mae Mount Elgon Tree Growing Enterprise (METGE) yn goruchwylio gweithrediad y prosiect yn Mbale. Maent yn gweithio gyda dau corff anllywodraethol lleol. Y partneriaid hyn yw MEACCE (Mount Elgon Agroforestry Communities Cooperative Enterprise) a Bungokho Rural Development Centre.
Mae Prosiect Coed Mbale yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd