Mae Maint Cymru yn falch o gyhoeddi bod Carwyn Jones, cyn Brif Weinidog Cymru, wedi cael ei gyhoeddi’n Gadeirydd newydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Roedd Carwyn yn Aelod y Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr am ddwy flynedd ar hugain ond yn ddiweddar, ymddiswyddodd cyn etholiadau Cymru ym mis Mai 2021. Treuliodd naw mlynedd fel Prif Weinidog Cymru, lle gweithredodd gyfres o fesurau hinsawdd pwysig, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid yw Carwyn yn ddieithr i Maint Cymru ac, yn 2014, ymrwymodd gyllid gan Lywodraeth Cymru i Raglen Plannu Coed Mbale. Mae’r rhaglen, gyda chefnogaeth Maint Cymru ac mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, yn tyfu miliynau o goed bob blwyddyn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Ymwelodd Carwyn â Mbale yn 2014, i weld y gwaith gwych sydd yn cael ei wneud gan y rhaglen yn uniongyrchol, ac i blannu’r un miliynfed coeden fel rhan o’r rhaglen.
Yn ei weithred gyntaf yn y rôl, mae Carwyn wedi galw ar bawb yng Nghymru i gymryd rhan mewn diwrnod o weithredu ar yr hinsawdd ar 25 Mehefin 2021, o’r enw’r Diwrnod Gwyrdd. Mae’r fenter flynyddol hon gan Maint Cymru yn annog pobl, ysgolion, gwneuthurwyr penderfyniadau a busnesau i weithredu a diogelu coedwigoedd trofannol.
Yn sgil cyhoeddi ei rôl newydd, dywedodd Carwyn:
“Ers fy nghyfnod fel Prif Weinidog, rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r bygythiad mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi i’n cenedl a’n planed. Rwyf wedi gweld y gwaith gwych mae Maint Cymru yn ei wneud hefyd mewn llefydd fel Mbale, drwy weithio gyda chymunedau lleol sydd yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd i dyfu coed a gwella bywoliaeth.
“Mae pobl yng Nghymru yn aml yn amgylcheddwyr balch, a gall ein cenedl fod yn rhan o’r ateb byd-eang i newid yn yr hinsawdd. Felly, rwy’n galw ar bawb i gymryd rhan yn y Diwrnod Gwyrdd ar 25 Mehefin, ac i gymryd camau positif dros yr amgylchedd.”
Meddai Cyd-sylfaenwyr Maint Cymru, Heather Stevens a Peter Davies:
“Rydym yn hapus dros ben y bydd Carwyn nawr yn arwain y Bwrdd ac yn cefnogi tîm rhagorol y sefydliad. Mae’r elusen wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae angen i ni barhau i gynyddu ei heffaith fel rhan o’n hymateb cenedlaethol i’r argyfwng hinsawdd byd-eang.”
Yn ei rôl newydd, bydd Carwyn yn cadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr y sefydliad, yn gweithredu fel ymddiriedolwr ei hun, ac yn rhoi arweiniad strategol i Maint Cymru. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi’r gwaith o weithredu ein strategaeth pum mlynedd, fydd yn cael ei lansio’n ffurfiol yn ddiweddarach eleni.