Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Enwebwch ni i gael £1,000!
Wedi cyflawni eu Gwobr Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo ym mis Gorffenaf, 2024
Ar ôl dysgu am goedwigoedd trofannol a nwyddau sy’n risg i goedwigoedd ar eu taith dim datgoedwigo, aeth myfyrwyr Ysgol Porth y Felin yng Nghonwy ati i rannu eu gwybodaeth, a dylanwadu ar newid cadarnhaol.
Yn gyntaf, rhannodd y myfyrwyr eu gwybodaeth am rôl ardystio moesegol mewn cyflenwadau pren cynaliadwy trwy ddigwyddiad cyfnewid llyfrau ysgol â thema’r Comisiwn Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC) oedd yn cael ei redeg gan yr athrawon a disgyblion blwyddyn 5. Fe wnaethant hysbysebu’r digwyddiad i’r gymuned ehangach i’w hannog i gymryd rhan, a rhoddwyd ffocws cryf ar leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu, i helpu i fynd i’r afael â datgoedwigo sy’n gysylltiedig â chynnyrch sydd yn cael eu gwneud o bren, papur a mwydion.
Yna, fe wnaethant greu arolwg i ddarganfod am arferion prynu coffi’r oedolion yn eu hysgol, a rhoi cyflwyniad i staff am y pwysigrwydd o brynu cynnyrch Masnach Deg.
Fe wnaethant drefnu prynhawn coffi Masnach Deg i’r ysgol gyfan, ac i’r athrawon a’r gymuned ehangach, lle gwnaethant werthu cacennau Masnach Deg ac annog eraill i ddewis cynnyrch Masnach Deg i helpu i gefnogi ffermwyr a choedwigoedd. Fe wnaeth y myfyrwyr wneud posteri Masnach Deg hefyd, i’w harddangos yn y digwyddiad.
Yn olaf, fe wnaethant gynllunio a darparu gwasanaeth ar gyfer yr ysgol gyfan i ddisgyblion a staff, i godi ymwybyddiaeth am ddatgoedwigo trofannol a beth y gall pobl ei wneud i helpu. Roedd yn cynnwys lleoliadau coedwigoedd trofannol ar draws y byd, cyfradd datgoedwigo, y bobl a’r anifeiliaid oedd yn cael eu heffeithio gan ddatgoedwigo, a rhywfaint o gamau syml y gall pobl eu cymryd yma i fod yn hyrwyddwr datgoedwigo.
Nesaf, maen nhw’n bwriadu ymchwilio i’w bwydlen ysgol ar gyfer nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, ac ysgrifennu at eu cyngor lleol/cwmni arlwyo i drafod eu canfyddiadau.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd