Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Wedi cyflawni eu Gwobr Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo ym mis Gorffenaf, 2024.
Yn sgil eu gwybodaeth newydd am bwysigrwydd coedwigoedd trofannol a nwyddau sy’n risg i goedwigoedd, a’r camau ymarferol i helpu i gefnogi pobl a natur, dechreuodd myfyrwyr Blwyddyn 5 yn Ysgol Blaen y Cwm godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli newid.
Dyluniodd a chyflwynodd y myfyrwyr wasanaeth ar gyfer yr ysgol gyfan, i ddisgyblion a staff godi ymwybyddiaeth am ddatgoedwigo trofannol a rhannu cyngor ymarferol am beth y gall pobl ei wneud i leihau eu hôl troed coedwig drofannol. Eu prif ffocws oedd ar yr ardystiad Masnach Deg, a’i bwysigrwydd mewn perthynas â choffi a chacao. Wedyn, fe aethon nhw ymlaen i drefnu bore coffi Masnach Deg a gwahodd rhieni, lle roedden nhw’n gwerthu cacen siocled Masnach Deg.
Fe wnaethant ysgrifennu at eu hoff frandiau siocled hefyd i ofyn am eu defnydd o gacao sydd wedi’i ardystio’n foesegol, ac i ddarganfod beth mae’r cwmnïau’n ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd