.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Mae Cenedl y Wampís - Cenedl Frodorol o’r Amazon ym Mheriw a phartner Maint Cymru ers 2016 - wedi nodi awydd a’r angen i newid a dechrau defnyddio ynni adnewyddadwy, a stopio defnyddio tanwyddau ffosil llygredig. Mae'r prosiect hwn yn cefnogi'r Wampís i wireddu'r weledigaeth honno, gan ddechrau gyda dau gwch wyth sedd sydd yn cael eu pweru gan yr haul - y cyntaf o'u math ym Mheriw.
Prif ffordd y Wampís o deithio o gwmpas eu tiriogaeth yw mewn cwch, gan fod eu tiriogaeth yn rhychwantu dau fasn afon a does dim ffyrdd. Fodd bynnag, mae tanwydd ar gyfer cychod yn ddrud iawn ac mae’n halogi dyfrffyrdd. Mae teithio yn hanfodol i fonitro ac amddiffyn eu coedwigoedd rhag bygythiadau fel torri coed yn anghyfreithlon, mwyngloddio aur a chwilio am olew. Ar ben hyny, mae cynyddu mynediad a chysylltedd i bentrefi sy dd fel arall yn wledig, yn helpu i gryfhau llais a gweledigaeth y cymunedau sydd yn ei dro, yn cryfhau eu hymateb i’r bygythiadau hyn.
Fe wnaeth Maint Cymru, mewn partneriaeth â Kara Solar, hyfforddi technegwyr brodorol – yn enwedig pobl ifanc – i ddylunio, adeiladu, gweithredu a thrwsio cychod sydd yn cael eu pweru gan yr haul a phwyntiau gwefru. Fe ddysgodd y Wampís yn uniongyrchol gan y Bobl Achuar, eu cymdogion brodorol dros y ffin yn Ecwador, a oedd y cyntaf i ddatblygu’r dechnoleg cludiant gwyrdd hon. Mae’r gwaith hwn yn darparu cyfleoedd cyflogaeth hefyd a dyfodol o bosibiliadau cyffrous i’r Wampís ddefnyddio ynni’r haul mewn sawl ffordd arall, er enghraifft i bweru cartrefi, ysgolion a chanolfannau cymunedol.
Mae’r cychod yn gweithio’n dda, ac fe wnaeth y gymuned eu croesawu’n fawr. Maen nhw’n darparu gwasanaeth amhrisiadwy i genedl y Wampís yn barod. Maen nhw’n helpu aelodau’r gymuned, sy’n cynnwys mamau beichiog, i ymweld â chanolfannau iechyd, mynd i’r ysgol, cludo eu cynhaeaf, cynnal eu gweithgareddau dyddiol a phatrolio’r afon.
Eu gobaith ar gyfer y dyfodol ydy sefydlu system drafnidiaeth ar yr Amazon sydd yn cael ei phweru gan yr haul, ac sy’n hyrwyddo trafnidiaeth lân ac annibyniaeth dechnolegol. Yn y pen draw, bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cadw coedwigoedd a Phobloedd Frodorol i ffynnu, a chyfrannu at hinsawdd well i bawb.
Eu cam nesaf fydd defnyddio ynni’r haul i gefnogi bywoliaethau cynaliadwy newydd a gwell fel cynhyrchu cacao, prosesu ffrwythau lleol fel yr aguaje ar gyfer ei olewau sy’n llawn fitaminau ac olew meddyginiaethol a chynhyrchu blawd plantain. Bydd paneli solar yn cael eu gosod mewn dwy gymuned, yn Shinguito ym masn afon Kankaim ac yn Cadungos, ym masn afon Kanus, a fydd yn gallu rhedeg generaduron heb lygru a defnyddio tanwydd drud. Bydd cymorth pellach yn cael ei ddarparu gan Bwyllgor Cynhyrchwyr newydd.
Helo fy enw i ydy Maritza Kukush Paati, dyma fy nghymuned Shinguito. Roedd ein neiniau a’n teidiau yn byw heb lygredd ac yn cysegru eu bywydau i ffermio a physgota yn yr afonydd. Yn anffodus, nid yw fy mam-gu ac fy nhad-cu yn fyw erbyn hyn ac erbyn heddiw, mae gennym ddyletswyddau a chyfrifoldeb mawr i ofalu am y goedwig. Mae’n rhaid i ni ofalu am goedwigoedd ac afonydd i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n cael eu llygru.
Fel person ifanc a llefarydd mewn amddiffyn bioamrywiaeth, y goedwig yw ein cyfoeth. Bydd y plant sy’n dod o genhedlaeth i genhedlaeth yn ei mwynhau heb lygredd, cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth.
Diolch i Kara Solar a Chenedl y Wampís am helpu i ddarparu cwch trydan i’r gymuned Shinguito sydd yn cael ei bweru gan yr haul, a chyda’r weledigaeth o ofalu am y goedwig a pheidio â’i llygru.
Mae Cenedl y Wampís (poblogaeth 15,000) yn frodorol i’r Amazon ym Mheriw. Mae eu tiriogaeth yn cwmpasu dros 1.3 miliwn hectar o goedwig drofannol ac mae’n fioamrywiol dros ben, gydag 82% o’r goedwig yn parhau i fod yn gyfan, er gwaethaf pwysau yn sgil torri coed yn anghyfreithlon a mwyngloddio aur a chwilio am olew. Mae arwyddocâd tiriogaeth y Wampís i amddiffyn yr hinsawdd ym Mheriw ac yn rhyngwladol yn aruthrol. Amcangyfrifodd astudiaeth fod coedwigoedd y Wampís yn storio 145 miliwn tunnell o garbon. Yn 2015, fe wnaethant gyhoeddi eu bod yn genedl, a ffurfio llywodraeth frodorol annibynnol gyntaf Periw.
Mae GTANW (Autonomous Territorial Government of the Wampís Nation), yn cynrychioli Cenedl y Wampís, ac fe’i sefydlwyd yn 2015, gan ffurfio llywodraeth annibynnol frodorol gyntaf Periw. Maen nhw’n cefnogi cynllun bywyd y Wampís i gyflawni Tarimat Pujut – cyflwr cytûn o fyw’n dda.
Mae Kara Solar yn gorff anllywodraethol sydd wedi’i leoli yn Ecwador, sy’n gweithio gyda diwylliannau brodorol i gyflwyno rhwydweithiau trafnidiaeth glân ac annibyniaeth dechnolegol.
.
.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd