Bob blwyddyn, mae’r byd yn colli tua 5 miliwn hectar o goedwig, gyda 95 y cant o ddatgoedwigo yn digwydd mewn rhanbarthau trofannol. Mae’r rhan fwyaf o hyn yn cael ei ysgogi gan amaethyddiaeth ddwys ar gyfer cynhyrchion rydym yn eu prynu, eu defnyddio a’u bwyta yng Nghymru bob dydd.
Mae Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo yn uno ysgolion, busnesau, cymunedau ffermio, corfforaethau cyhoeddus a grwpiau cymunedol i fynd i’r afael â’r mater hwn, ac i helpu i wneud Cymru yn Genedl Dim Datgoedwigo.
Mae Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo wedi tyfu o gynllun peilot ein rhaglen Cymunedau Dim Datgoedwigo (sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Arloesi Carbon y Co-op), a gynhaliwyd yn Sir Fynwy ac a oedd yn cynnwys disgyblion, athrawon, gweithwyr cymunedol, staff arlwyo, ffermwyr, swyddogion sifil, cynghorwyr, ac eraill. Arweiniodd y prosiect peilot – a gwaith eiriolaeth y disgyblion – at Gyngor Sir Fynwy yn pleidleisio’n unfrydol i ddod yn Gyngor Hyrwyddo Dim Datgoedwigo cyntaf Cymru.
Rydym nawr yn bwriadu gwneud pob cyngor yng Nghymru’n Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo!
Pam rydym yn gwneud hyn?
Mae Cymru’n cyfrannu at ddatgoedwigo trofannol a throsi cynefinoedd trwy ein defnydd o nwyddau sy’n risg i goedwigoedd a thrwy eu mewnforio, gan gynnwys cig eidion o America Ladin, soia (sydd yn cael ei ddefnyddio’n bennaf mewn porthiant anifeiliaid), olew palmwydd, coffi, coco, pren, papur a mwydion, a rhywfaint o nwyddau pwysig eraill. Mae tua 73% o’r holl ddatgoedwigo trofannol yn cael ei ysgogi gan y galw am y cynhyrchion hyn.
Rydym angen ein coedwigoedd trofannol. Maen nhw’n bwysig dros ben i fywyd ar ein planed, ac yn helpu i reoleiddio ein hinsawdd a’n systemau tywydd, i buro ein haer a’n dŵr, ac i ddarparu lloches, bwyd a meddyginiaeth, a llawer mwy. Mae datgoedwigo trofannol yn cynyddu’r risgiau rydym yn eu hwynebu’n gyda’n gilydd- dynol / dim yn ddynol- yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd a cholli natur. Mae llawer o bobl yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan ddatgoedwigo hefyd, er enghraifft, Pobl Frodorol a chymunedau coedwig lleol, sy’n wynebu bygythiadau difrifol a thrais, colli tir a llawer o effeithiau eraill, sydd yn cael eu hysgogi yn sgil cynhyrchu’r nwyddau hyn.
Yn ogystal, mae gan sector cyhoeddus Cymru ddyletswydd orfodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 – deddfwriaeth o’r radd flaenaf sy’n cymryd iechyd a llesiant cenedlaethau presennol a dyfodol i ystyriaeth – i ystyried cyfrifoldeb byd-eang o fewn ei bŵer gwneud penderfyniadau. Mae gwreiddio safonau ac arferion dim datgoedwigo, fel caffael cyhoeddus dim datgoedwigo, yn ffordd allweddol i gyrff cyhoeddus gyfrannu at y nod hwn.