Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?
Helpwch i Sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd!
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 22 Medi, yn cynnwys y cyflwynydd teledu Kate Humble ac enillydd MasterChef James Nathan, a feirniadodd greadigaethau’r myfyrwyr. Fe wnaeth disgyblion o bedair ysgol yn Sir Fynwy syfrdanu’r beirniaid a’r gynulleidfa gyda’u korma arloesol – opsiwn iach, gwahanol o’i gymharu gyda phrydau ysgol traddodiadol, sydd ddim yn achosi datgoedwigo.
Mae’r fenter hon, sydd wedi’i threfnu gan Maint Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy, The Co-op Foundation, a’r ‘Cooklong Club’, yn rhan o’r ymgyrch Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo. Mae cynllun peilot ymgyrch arloesol gan yr elusen Maint Cymru, elusen unigryw sy’n gwneud Cymru’n rhan o’r ateb byd-eang i newid hinsawdd, wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol i helpu Trefynwy ar ei thaith i fod yn sir dim datgoedwigo.
Mae penderfyniad Cyngor Sir Fynwy i ychwanegu’r korma ffacbys ar fwydlenni ysgol yn garreg filltir yn yr ymgyrch Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo. Mae’r ymrwymiad hwn yn gam sylweddol tuag at wneud Sir Fynwy yn Sir Dim Datgoedwigo, ac yn gosod esiampl bwerus i siroedd eraill ei dilyn.
Dywedodd Nichola James, Swyddog Ymgyrch Cymunedau Dim Datgoedwigo Maint Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i gynnwys y pryd hwn ar fwydlenni ysgol. Mae’n ffordd wych o wreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol i fywyd bob dydd, ac mae’n dangos sut y gall y genhedlaeth iau ysbrydoli newid go iawn.”
Archwiliodd y disgyblion eu bwydlen ysgol, a chanfod bod y ddysgl korma cyw iâr mewn perygl o achosi datgoedwigo, oherwydd bod y cyw iâr yn cael ei besgi ar soia, ac yn dinistrio coedwigoedd trofannol mewn mannau fel Brasil. Mae’r korma ffacbys nid yn unig yn hyrwyddo bwyta’n iachach mewn ysgolion, ond mae hefyd yn cefnogi’r genhadaeth i leihau datgoedwigo trofannol, un pryd ar y tro.
Dywedodd y Cyflwynydd Teledu, Kate Humble: “Trwy fwyta llai o gig, ond o ansawdd gwell, fel cig organig sydd heb gael ei besgi ar soia, a chynyddu proteinau amgen fel ffacbys, ffa a chorbys, gallwn dynnu cynhwysion sydd yn achosi datgoedwigo oddi ar y fwydlen. Mae’r plant yma wedi dangos ei bod hi’n bosib – ac os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny, gall pawb wneud hynny.”
Mae’r cynllun peilot korma ffacbys yn rhan o ymdrech fwy Maint Cymru i wneud Cymru y wlad gyntaf yn y byd i ddileu datgoedwigo trofannol o’i chadwyni cyflenwi. Y llynedd yn unig, collwyd ardal o goedwig drofannol ddwywaith maint Cymru oherwydd datgoedwigo, oedd yn cael ei achosi gan y cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd yn cael eu defnyddio yn fyd-eang. Nod yr ymgyrch Hyrwyddwyr Dim Datgoedwigo ydy newid hyn drwy hyrwyddo arferion dim datgoedwigo mwy cynaliadwy.
Cyfrannwch heddiw i sicrhau dyfydol gyda choedwigoedd