Mae Stuart yn Gyfrifydd Siartredig wedi lled-ymddeol a gychwynnodd ei yrfa gyda Touche Ross. Ar ôl cymhwyso, symudodd i gwmni yswiriant Admiral, gan redeg yr adran Gyllid o 1996-2004. Yn dilyn rhyddhau’r grŵp i’r farchnad ar Gyfnewidfa Stoc Llundain ym Medi 2004, daeth Stuart yn Ysgrifennydd Cwmni’r Grŵp sy’n gyfrifol am Lywodraethu Corfforaethol y busnes. Yn 2008 gwnaeth led-ymddeol, gan barhau gyda’I berthynas ag Admiral fel cyfarwyddwr anweithredol ar nifer o is-gwmnïau yn ogystal â dod yn gyfarwyddwr anweithredol gyda chwmni cychwynnol dadansoddi data yn Abertawe.
Ymunwch â'r gymuned
Eisiau clywed am ein prosiectau, ymgyrchoedd a digwyddiadau diweddaraf trwy ebost?