Mae Lisa yn Uwch Gyfarwyddwr, People Experience ac yn un o sylfaenwyr Ogi, cwmni telegyfathrebu annibynnol mwyaf Cymru. Mae hi’n Arweinydd Gweithredol Ogi ar gyfer arferion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG). Mae Lisa yn Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), ac mae ganddi 15 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Adnoddau Dynol, y mae hi wedi ennill ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a nid-er-elw. Mae Lisa yn angerddol am greu gweithleoedd sy’n cydnabod gweithwyr fel pobl gyfan ac am feithrin diwylliant o gynhwysiant, dealltwriaeth a hyblygrwydd.
“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Maint Cymru ac uchelgeisiau’r elusen i osod Cymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â newid hinsawdd ar y llwyfan byd-eang. Yn benodol, mae’r gwaith mae’r elusen yn ei wneud i rymuso a chefnogi pobl leol i amddiffyn eu hamgylchedd a bod mewn rheolaeth dros eu tynged eu hunain yn ysbrydoledig tu hwnt.”